Rai wythnosau yn ôl, cawsom ein Brecwast Bedydd cyntaf… ac roedd yn un gwerth chweil yn wir!
Fe wnaethom ni hysbysebu yn yr eglwys ac yn y cyffiniau a dim ond tri theulu ddaeth – dyw hyn ddim yn swnio fel rhyw lawer, ond fe anogon ni’r mamau a siaradodd â ni (mamau ydyn nhw, bron bob amser) i ddod i’r brecwast gyda’u partneriaid, rhieni bedydd, neiniau a theidiau, ffrindiau sy’n pendroni am fedydd, a dyna ddigwyddodd.
Tua 9.30am ar fore Sadwrn, roedd deunaw o oedolion, un babi, dau blentyn bach, pedwar gwirfoddolwr a fi’n bresennol. Fe wnaethon ni weini croissants, teisennau crwst, tost a jam ac yna awgrymu eu bod nhw’n edrych ar y cardiau cwestiynau oedd ar bob bwrdd, a chael sgwrs.
Roedd y gwirfoddolwyr yn cadw llygad ar ei gilydd ac yn gyfrifol am eistedd a sgwrsio gyda phobl a gwneud y tost am yn ail! Roedd y plant yn bwyta’n gyflym ac wrth eu boddau gyda’r lle chwarae syml iawn – ‘sgwâr o gadeiriau’ – 20 o gadeiriau hamddenol, isel mewn sgwâr gyda byrddau isel yn y canol a theganau ac ati ar gyfer y ddau blentyn bach a ddaeth.
Tua 10.15am fe wnaethon ni awgrymu bod yr oedolion yn ymuno â’r plant a threulio 15 munud yn siarad fel grŵp, gan ateb cwestiwn neu ddau a sôn wrthyn nhw am y gwasanaeth ond yn gyffredinol, fe fuon ni’n meithrin cysylltiadau. Roeddem wrth ein bodd pan ddaeth un fenyw ifanc a oedd yn hynod bryderus am ei mab ‘bywiog’ i deimlo’n ddigon hyderus i ddod ag ef i’r eglwys ar Sul y Pasg. Cyn hynny, roedd hi wedi ofni dod ag ef rhag ofn y byddai’n cadw reiat.
Felly, o fewn awr, cryfhawyd y berthynas gyda theulu o’r eglwys a theulu arall, a lliniarwyd ofnau teulu newydd sbon am yr eglwys. Fe adawon nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl - ymweliad gan glerig a fyddai’n mynd trwy’r gwasanaeth ac wynebau cyfarwydd i’w croesawu ar y diwrnod.
Fe roddon ni beth llenyddiaeth iddyn nhw – roedden ni i gyd yn hoffi’r cardiau rhieni bedydd gyda magned oergell y tu mewn – ac roedd pawb yn gadael gyda gwên.
Ficer o Lerpwl