English

Dyma syniad am bregeth gwasanaeth bedydd gyda’r neges bod yna lawer o rolau yn Nheulu Duw a bod gan bawb ran i’w chwarae ym mywyd Cristnogol y plentyn hwn. Cefais ymateb da ac ro’n i’n teimlo bod llawer o bobl yn uniaethu gan fod gan bawb ei hoff Jelly Baby. Defnyddiais set o Jelly Babies tegan a gwneud bag anferth er mwyn i bobl ddewis eu hoff un nhw wrth i mi siarad amdanyn nhw..

Cyfeiriad Beiblaidd: Bedydd Iesu: Mathew 3, Marc 1, Luc 3

Nodiadau’r anerchiad:

Rhowch hanes cryno Jelly Babies (gweler Wikipedia ac ati)

Roedd pob jelly baby’n arfer bod yr un siâp, yna ym 1989, rhoddwyd enw i chwech ohonyn nhw, a’u hunaniaeth a’u nodweddion eu hunain.

Estynnwch nhw allan o’r bag

  • Baby Bonnet pinc – drygionus
  • Boofuls gwyrdd – crïo, calon feddal
  • Bumper oren – bag pen-ôl, llawn egni
  • Bubbles melyn – gwallt mewn cynffon, bywiog
  • Bigheart llwyd – calon ar ei lawes, rhoi eraill yn gyntaf
  • Brilliant coch – cap pêl-fasged, arweinydd

Mae angen cymysgedd dda o bobl i wneud bag o Jelly Babies/i fod yn deulu/yn gyfrifol am fagu/dylanwadu ar blentyn – mae llawer o bobl yn rhan o’r broses o feithrin plentyn.

  • Iesu, a’r plentyn hwn
  • Mair a Joseff – rhieni
  • Meddygon teulu/teulu
  • Tri gŵr doeth – y rhai sy’n cydnabod potensial
  • Anna a Simeon – pobl hŷn sy’n llawn gwirioneddau, hyd yn oed pan fo rheini’n rhai anodd i’w clywed
  • Offeiriaid yn y deml – y rhai sy’n ein haddysgu/dysgu gyda ni am Dduw
  • Ioan Fedyddiwr – y rhai sy’n ein helpu i gyflawni cynllun Duw i ni
  • Pwy ydym ni ym mywyd y plentyn hwn?
  • Sut byddwn ni’n cyflawni ein rôl ym mywyd y plentyn hwn?
  • Angen yr Ysbryd Glân – mae bedydd yn gyfle i ni i gyd adnewyddu’n ffydd.

Shanthi Thompson