Mae pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn aml yn troi at eu Caplan lleol, neu weinidog arbenigol ar gyfer pobl fyddar i gynnal angladdau aelodau o’r teulu yn Iaith Arwyddion Prydain. Fodd bynnag, dylid cofio bod llawer o bobl fyddar yn dod o deuluoedd lle nad yw’r rhan fwyaf o’r aelodau yn fyddar ac efallai na fydd ganddyn nhw wybodaeth am y gymuned fyddar.
Yn aml, mae’n haws i aelodau di-fyddar y teulu drefnu angladdau gan y gallan nhw ddefnyddio’r ffôn a chyfathrebu’n hawdd gyda’r ymgymerwr, ond mae angen bod yn ystyriol ac yn ofalus er mwyn canfod beth yw gwir ddymuniadau’r person byddar. (Er enghraifft, yn aml mae person byddar yn priodi rhywun sydd hefyd yn fyddar ond bydd y plant yn clywed mae’n debyg. Os yw un partner yn marw, gall dymuniadau’r partner sydd ar ôl gael eu hanwybyddu os yw’r plant yn trefnu’r angladd heb gael dehonglwr yn bresennol).
Yn aml, bydd llawer o aelodau’r gymuned fyddar yn bresennol yn angladdau pobl fyddar a gall hyn fod yn syndod i aelodau eraill o’r teulu sydd heb sylweddoli maint y gymuned fyddar o bosibl. Os mai gwasanaeth byr yn yr amlosgfa yw’r angladd, efallai y bydd y gymuned yn dymuno cynnal gwasanaeth coffa er mwyn i sawl un dalu teyrnged i’r person sydd wedi marw.
Efallai y bydd angen trafod yr arfer o gael y teulu yn y blaen mewn angladd os oes llawer o bobl fyddar yn debygol o fod yn bresennol, gan y byddan nhw angen iddyn nhw gallu gweld y dehonglwr. Mae angen cael sgyrsiau sensitif am hyn.
Mae dehonglwyr iaith arwyddion yn weithwyr proffesiynol sydd wedi cael llawer o hyfforddiant a bydd angen talu am eu gwasanaethau fel unrhyw un arall sy’n gwneud gwaith proffesiynol yn yr angladd.
Cwestiynau cyffredin
Faint fydd e’n gostio?
Mae’n anodd ateb hyn gan fod y rhan fwyaf o ddehonglwyr yn weithwyr llawrydd felly mae eu ffioedd yn amrywio. Yn 2015, roedd dehonglwyr yn codi £30 yr awr ar gyfartaledd yn genedlaethol ond dylid cofio y bydd gan y rhan fwyaf o ddehonglwyr isafswm ffi galw allan sy’n gyfwerth â dwy neu dair awr. (ffynhonnell: Undeb Cenedlaethol Dehonglwyr Iaith Arwyddion www.nubsli.com/guidance/interpretingfees)
All rhai dehonglwyr ddarparu hyn am ddim i’r Eglwys?
Mae rhai dehonglwyr eisoes yn gweithio am ddim yn eu heglwysi lleol, o Sul i Sul, yn dehongli’r gwasanaethau. Bydd rhai yn gostwng eu ffioedd i waith yr Eglwys a rhai’n gweithio heb godi ffi weithiau, os yw’n nabod y person byddar sydd wedi marw, neu’r person byddar yn bersonol. Fodd bynnag, dylid cofio bod dehonglwyr llawrydd yn ddehonglwyr sydd wedi derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw angen ennill bywoliaeth. Dylid eu trin yn deg. Dylai gwirfoddolwyr hyd yn oed gael costau teithio.
Mae ein gwasanaeth i gyd ar y sgrin/yn ysgrifenedig mewn taflen gwasanaeth/llyfr felly pam na all y person byddar ddim ond darllen y testun?
Mae cael deunydd ysgrifenedig/tafluniedig yn ddefnyddiol iawn i bobl fyddar. Fodd bynnag, nid Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf neu iaith ddewisol llawer o bobl a fyddan nhw ddim yn gallu ymroi i’r addoliad yn llawn drwy’r gair ysgrifenedig yn unig. Mae dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yn rhoi mynediad i dôn llais, cywair, cynnwys emosiynol ac, wrth gwrs, i’r holl rannau o’r gwasanaeth nad ydyn nhw’n ysgrifenedig.
Mae gennym ni aelod sydd wedi bod yn astudio iaith arwyddion – pam na allan nhw ddarparu’r gwasanaeth?
Efallai y bydd hyn yn bosib – ond dylech sicrhau eu bod wedi dysgu’r Iaith Arwyddion i lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch) o leiaf ac wedi cael peth hyfforddiant fel dehonglwr. Mae priodasau ac angladdau’n defnyddio iaith gymhleth iawn ac mae dehonglwyr yn cael eu hyfforddi i ymdrin ag iaith o’r fath. Byddai’n dda pe bai’r defnyddiwr iaith arwyddion yn gallu dod i’r gwasanaeth i fod wrth law ar gyfer y bobl fyddar a allai fynychu – hyd yn oed os na fydd yn dehongli.
Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid defnyddio dehonglwyr sydd wedi’u hyfforddi ac wedi cofrestru gyda Chofrestr Genedlaethol Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol gyda Phobl Fyddar a Dall Fyddar (NRCPD).
Mae gennym ni Gaplan lleol ar gyfer pobl fyddar – a fyddai’n gallu darparu’r gwasanaeth dehongli?
Fel uchod, efallai. Fodd bynnag, nid oes gan rai Caplaniaid y sgiliau gofynnol ac mae rhai Caplaniaid yn fyddar eu hunain ac felly ni fyddan nhw’n gallu dehongli o bosibl. Dylech ofyn am eu cyngor gan y gallan nhw eich rhoi chi mewn cysylltiad â dehonglwr o bosibl hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu dehongli eu hunain.
Mae person byddar am roi teyrnged/darllen o’r Beibl yn y gwasanaeth. Sut byddai hynny’n gweithio?
Yn hawdd, mae’r dehonglwyr yn gweithio rhwng dwy iaith: Cymraeg/Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, felly os oes rhywbeth yn cael ei gyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain gellir ei ddehongli i’r Gymraeg/Saesneg er budd aelodau’r gynulleidfa nad ydyn nhw’n arwyddo.
Ble mae dod o hyd i ddehonglwr?
- NRCPD
- Cymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain
Mae gan y ddau sefydliad yma gronfeydd data lle y gellir eu chwilio yn ôl rhanbarth neu god post.
- Mae gan Signs of God www.signsofgod.org.uk gronfa ddata o ddehonglwyr Cristnogol sy’n gyfarwydd â gwasanaethau’r Eglwys. Maen nhw hefyd yn hapus i anfon ceisiadau dehongli at eu haelodau.
Gill Behenna