English

Mae bob amser yn anodd sgwrsio am farwolaeth, marw ac angladdau, a hyd yn oed yn fwy felly pan mae’n fater personol. Fodd bynnag, mae yna arwyddion bod y tabŵ hwn yn cael ei herio dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r her hon yn cael ei gyrru gan ddemograffeg yn rhannol: mae’r genhedlaeth a elwir y ‘baby boomers’ (1946-1955) yn cyrraedd y cyfnod mewn bywyd lle mae marwolaeth yn nesáu. Dros y blynyddoedd mae’r genhedlaeth hon wedi bod yn cwestiynu a herio sefydliadau ac awdurdod, gan ddyheu am fod yn wreiddiol a chreadigol o bosibl. Fel y dywedodd rhywun: “Dydy’r genhedlaeth a greodd Woodstock ddim yn mynd i ‘lithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’”.

Mae arwyddion bod y tabŵ’n cael ei gwestiynu’n cynnwys gwneud rhaglenni dogfen fel ‘My last summer’ (Channel 4), datblygiad Gwyliau Marwolaeth (Southbank, a llwyddiant y mudiad llawr gwlad – Caffi Marwolaeth (Death Café). Yr hyn yw Caffi Marwolaeth yw lle i bobl fwynhau tamaid o gacen a siarad am farwolaeth, weithiau mewn caffi go iawn neu weithiau mewn cartref neu le cyfarfod arall. Mae oedolion ifanc yn ogystal â phobl hŷn yn sylweddoli bod yna lawer i’w ddweud am y realiti sensitif ond pwysig hwn ar ôl iddyn nhw ddechrau siarad.

Mae’r Eglwys mewn lle da i fod yn rhan o’r momentwm hwn. Ers canrifoedd rydym wedi cynnal profiadau a meddyliau pobl am farw, marwolaeth, angladdau a phrofedigaeth yn llythrennol ac yn drosiadol. Yn fugeiliol, rydym yno i bobl wrth iddyn nhw wynebu marwolaeth ac yno iddyn nhw wrth iddyn nhw gynllunio angladdau a galaru. Mae gennym ddigon o le hefyd a gallwn wneud paned a chacen heb eu hail.

Mae GraveTalk ar ffurf caffi gyda chyfle yno i siarad am farwolaeth, marw ac angladdau. Mae’n cael ei drefnu gan yr eglwys leol a gellir ei gynnal mewn neuadd, cartref neu gaffi go iawn. Mae pecyn o gwestiynau GraveTalk yn cael ei ddosbarthu ym mhob digwyddiad – mae yna 52 o gwestiynau agored wedi’u hysgrifennu’n arbennig i gael pobl i siarad am farwolaeth, marw, angladdau a cholled. Does dim atebion, dim ond sgwrs. Ac mae’n agored i bobl o bob ffydd ac amheuon.

Mae cysyniad ac adnoddau GraveTalk wedi’u profi’n ofalus gyda phlwyfi mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Stafford.

Pryd fydd e ar gael i’w brynu?

Gallwch archebu’r hyn sydd ei angen arnoch yn y Church Print Hub.

Sut mae gwybod sut i gynnal digwyddiad?

Mae yna becyn hwylusydd gyda’r cardiau, yn egluro sut i gynnal digwyddiad.

A oes rhaid cael ficer i gynnal y digwyddiad?

Nac oes. Gall tîm bychan o bobl leyg arwain GraveTalk yn hawdd.

Ai math o gwrs dros y Grawys yw e?

Na. Nid cwrs yw GraveTalk, ond sgwrs. Bydd rhai pobl yn dod unwaith yn unig, ond efallai y bydd eraill yn dod ail neu drydydd gwaith.

Sut mae rhoi cyhoeddusrwydd iddo?

Mae pob math o bosteri a deunyddiau eraill ar gael ar y Church Print Hub. Efallai bydd gan y wasg leol ddiddordeb hefyd.

Ar gyfer pa grŵp oedran mae e?

Mae’n addas i bawb. Mae pobl ifanc wedi cymryd rhan yn llawer o’r sgyrsiau hyn yn ogystal â’r genhedlaeth hŷn.

Tîm Prosiect Digwyddiadau Bywyd