English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Bydd gan bobl deulu a ffrindiau o’u hamgylch yn aml yn fuan ar ôl angladd ond mae eglwys sy’n aros mewn cysylltiad yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyswllt yn y dyfodol. Mae’r adran hon yn cynnwys cyfleoedd ymarferol a bugeiliol ar gyfer cefnogi pobl yn y dyddiau a’r wythnosau yn syth ar ôl angladd.

Efallai y bydd ffrindiau, cymdogion a theulu yno i’w gilydd yn yr wythnosau yn syth ar ôl angladd, ond gall anghenion a chwestiynau dyfnach godi wrth i amser fynd rhagddo. Hefyd, efallai na fydd y teulu’n gwybod beth sy’n digwydd nesaf o ran y llwch, na chwaith fod yr eglwys yn gallu bod yn rhan o hyn. Mae’n bwysig bod ar gael iddyn nhw a dangos gofal parhaus yr eglwys; ni fydd gweinyddion sifil ac annibynnol ar gael i gynnig hyn fel arfer.

Efallai y bydd y teulu yn gwerthfawrogi ymweliad ‘sut ydych chi’, ond mae yna ffyrdd eraill i ddangos eich bod chi’n malio:

Llwch
  • Os yw teulu wedi dewis amlosgi dylech eu hatgoffa y gallwch fod yno iddyn nhw pan fydd y llwch yn cael ei wasgaru.
  • Gall y litwrgi fod yn syml ond dylai gynnig neges o obaith a chysur.
  • Gall cadw mewn cysylltiad a chynnig bod yno pan fydd y llwch yn cael ei wasgaru gynnwys gofalu bod y teulu wedi casglu’r llwch. Mae Ymgymerwyr yn aml yn dweud nad yw llwch yn cael ei gasglu a gallwch gefnogi’r teulu a’r Ymgymerwr trwy wirio bod y llwch yn cael ei roi i orffwys neu ei wasgaru.

DS: Efallai y bydd rhai teuluoedd yn cadw’r llwch yn eu cartrefi yn yr wythnosau ar ôl yr angladd. Gall hyn fod yn rhan o broses alaru, gan ddal gafael ar y teimlad bod y person yn dal yno mewn rhyw ffordd. Wrth i amser fynd heibio, gall y llwch symud o’r silff ben tân i rannau llai gweladwy o’r tŷ. Sylwch ar hyn pan fyddwch chi’n ymweld, gan y gall fod yn ysgogiad ar gyfer gofal bugeiliol dros amser, ac yn sbardun i gael sgwrs am y man gorffwys terfynol pan mae’r teulu’n barod.

Cymorth bugeiliol
  • Tua mis ar ôl yr angladd bydd cardiau cydymdeimlo’n cael eu tynnu i lawr a negeseuon o gymorth yn dechrau lleihau. Mae’n amser da i sicrhau’r teulu o gefnogaeth barhaus yr eglwys. Gellir defnyddio cerdyn arbennig ar gyfer hyn.
  • Mae yna gyfres o gardiau eraill ar gael hefyd y gellir eu hanfon at y teulu wrth i amser fynd heibio, er enghraifft mis ar ôl yr angladd, blwyddyn, dwy flynedd. Mae un enghraifft uchod sy’n dangos dwy ochr y cerdyn. Maen nhw’n cynnig myfyrdodau, gweddïau a chefnogaeth barhaus yr eglwys. Does dim rheolau pendant ynghylch pryd i’w hanfon - bydd yn amrywio yn ôl y gwahanol deuluoedd.
  • Os oes gan eich eglwys dîm bugeiliol sydd wedi cael eu hyfforddi mewn cymorth galar, gall hwn fod yn amser da iddyn nhw ymweld â’r teulu a chyflwyno eu hunain.
  • Cofiwch efallai fod ffrindiau a chymdogion yn galaru hefyd, ac y gallai marwolaeth ddiweddar ddwyn i gof colledion eraill a brofwyd dros y blynyddoedd.