English
Church interior with congregation facing a decorated altar, under high wooden ceilings and stained glass windows

Mae’r cwrs unigryw hwn yn cynnig amser a lle i stopio, myfyrio rhannu a gweddïo - Mae’r cwrs wedi ei gynllunio yn benodol i glerigion sydd wedi gwasanaethu am o leiaf pymtheg mlynedd o weinidogaeth ordeiniedig.

P’un ai ydych yn teimlo pwysau blynyddoedd o weinidogaeth neu’n chwilio am adferiad, dyma’r cyfle i ail gysylltu â’ch pwrpas gyda’r rhai sy’n deall y daith, a gyda’r Duw sy’n parhau i’ch galw chi ymlaen.

Pam mynychu?

  • Myfyrio – ar eich gweinidogaeth a’ch galwedigaeth hyd yn hyn
  • Adfer – mewn amgylchedd diogel a cefnogol
  • Ail-werthuso eich sgiliau, talentau a’ch galwad
  • Ail-gysylltu â Duw a chyd glerigion

Beth i’w ddisgwyl

  • Trafodaethau grŵp bach
  • Amser am fyfyrio personol
  • Sesiynau meddwl wedi eu hwyluso
  • Cyfleoedd i weddïo ac addoli
  • Gofod i ystyried:
    • Beth fu
    • Beth sydd
    • Beth sydd i ddod

Lle a phryd

Dyddiad a lleoliad Cwrs Goroesi a Ffynnu yn ystod cyfnod canol eich gweinidogaeth

Dyddiad Lleoliad
13-15 Gorffennaf 2026 Gwesty’r
Metrepole, Llandrindod

Lleoliad cyffyrddus a heddychlon i gefnogi chi ar eich taith fyfyrdod ac adferiad

AM DDIM

I gofrestru neu i gael gwybodaeth pellach cysylltwch: