English

Tra bo nifer o bobl yn edrych ymalen at ei ymddeoliad ac yn mwynhau paratoi ar gyfer y rhyddid a chyfleoedd a ddaw gyda ymddeoliad, i eraill gall fod yn adeg ansicr a phryderus.

I glerigion, yn enwedig y rheiny sydd wedi bod yn y weinidogaeth am nifer o flynyddoedd, gall ymddeoliad gyflwyno heriau a phryderon ynghylch cyllid a chartref ag i eraill gall ymddeoliad deimlo fel bygythiad i'w hunaniaeth. Er y bydd llawer yn hapus iawn i ymddeol a thynnu eu coleri clerigol am y tro olaf, bydd eraill yn trafferthu i feddwl am fywyd heb fod yn rhan o weinidogaeth, ac rydym ni'n awyddus i gynnig gymaint o help a chymorth i'n cydweithwyr celerigol. Yn sicr, mae'r Eglwys yng Nghymru yn gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar ymrwymiad clerigon actif wedi ymddeol.

Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnal Cyrsiau Cyn-Ymddeoliad yn rheolaidd er mwyn rhoi cymorth a chyngor gwerthfawr i bob un sy'n ystyried ymddeol.

Pwy all ddod i gwrs Cyn-ymddeoliad?

Gall unrhyw glerigwr sy'n gwasnaethu a dros 58 oed ddod ar y cwrs. Nid yw'n meddwl eich bod ar fin ymddeol, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddechrau gynllunio ar ei chyfer, hyd yn oed os yw ymddeoliad ychydig o flynyddoedd i ffwrdd. A gallwch ddod mwy nag unwaith. Mae'n bosib y bydd yn ddefnyddiol i ddod ychydig o wiethiau yn y blynyddoedd sy'n arwain at eich ymddeoliad wrth i'ch amgylchiadau ariannol a phersonol newid.

Ydw i'n cael dod â rhywun gyda fi?

Mae croeso i bawb sy'n mynychu'r cwrs ddod a gŵr neu gwraig, partner, ffrind neu aelod o'r teulu gyda nhw. Yn naturiol, efallai y byddai well gennych i fynychu ar eich pen eich hun, neu efallai na fydd yn bsoib i'ch partner, aelod o'r teulu neu ffrind i fynychu. Eich dewis chi yn llwyr ydyw.

Beth fydd yn cael eu chynnwys ar y cwrs?

  • Help gyda chynllunio ariannol ar gyfer ymddeoliad
  • Gwybodaeth am glerigion a phensiynau'r llywodraeth
  • Trosolwg o Gynllun Pensiwn yr Eglwys yng Nghymru
  • Siaradwyr Gwadd yn rhannu eu profiadau o ymddeol o'r weinidogaeth
  • Elfennau personol o ymddeoliad megis y cyfnod o drawsnewid i rhan newydd o fywyd, huna-ofal, iechyd ac anghenion ysbrydol
  • Lle i feddwl, gweddio a myfyrio
  • Cyfle rheolaidd i weddio
  • Gweithdai i drio rhywbeth newydd a gael ychydig o hwyl

Pryd mae'r cyrsiau nesaf?

Dyddiad Lleoliad
16 -18 Tachwedd 2026 Gwesty'r Metrepole, Llandridndod
Am fwy o fanylion neu i fwcio eich lle cysylltwch:
cmdadmin@stapadarns.ac.uk
neu ffoniwch: 02920 563379

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cwrs cyn-ymddeoliad neu ymddeoliad yn gyffredinol cysylltwch:

Y Tîm Datblygiad |Parhaus i Weinidogion

CMDadmin@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 838005