English

Tua dechrau’r Ysgol Haf yn Nhrefforest, clywais fod y tîm addoli yn chwilio am emyn ar thema cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y Cymun ar ddiwedd yr wythnos. Yn fyrbwyll braidd, cynigiais gyfansoddi emyn newydd sbon ar gyfer yr achlysur. Fel arfer, mae angen tôn arna i yn fy mhen i gyfansoddi geiriau cân neu emyn, felly gofynnais i Cass Meurig, un o’n hymgeiswyr sydd wedi cyfansoddi a pherfformio llawer iawn o ganeuon Cristnogol ei hun, yn aml ar alawon gwerin, awgrymu tôn i mi. A’r hyn gynigiodd hithau’n syth oedd ‘Ym Mhontypridd mae ‘nghariad’, cân werin o’r union ardal lle roedden ni’n cyfarfod.

Dw i’n cyfansoddi llawer pan dw i ar daith, felly gan fod gofyn i mi fynd i’r Athrofa yn Llandaf ar ddydd Mercher yr Ysgol Haf, penderfynais mai dyna pryd y byddwn yn mynd ati. Roedd streic ar y trenau’r diwrnod hwnnw, felly ar y bws i Landaf ac yn ôl y cyfansoddwyd yr emyn – diolch, felly i Stagecoach South Wales am eu nawdd!

Dduw Dad, rho fraint dy bryder

dros bawb i ni, a’r hyder

i feiddio caru byd o’i go’

i’w fendio â chyfiawnder.

Frawd Iesu, dysga ninnau

i fyw dy ofal dithau

am ffrind a gelyn ym mhob gwlad

gariad uwch na geiriau.

Tyrd, Ysbryd Glân, ddiddanydd

y gweiniaid, a chynhyrfydd

y rhai â’r grym i’w llwyr ryddhau

boenau gormes beunydd.

Dad, Mab ac Ysbryd, Trindod,

uchafbwynt perffaith undod,

fe grefwn nerth drwy ddyddiau du

i gamu’n hy at gymod.