English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Cyhoeddi Pennaeth Newydd Athrofa Padarn Sant

Mae Athrofa Padarn Sant yn falch iawn o gyhoeddi penodiad y Parchedig Ganon Ddr Jordan Hillebert yn Bennaeth newydd i Athrofa Padarn Sant, sefydliad hyfforddi gweinidogaethol yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Jordan wedi treulio mwy na degawd yn gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru ym maes hyfforddi a ffurfiant, yn gyntaf fel Tiwtor Diwinyddiaeth yng Ngholeg Sant Mihangel ac yn flaenorol Cyfarwyddwr Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth ym Mhadarn Sant. Fel Cyfarwyddwr Ffurfiant, mae Jordan wedi chwarae rhan allweddol yn y Tîm Arwain Uwch ym Mhadarn Sant, wrth oruchwylio hyfforddiant a ffurfiant cychwynnol yr holl weinidogion lleyg trwyddedig ac ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru.

Yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau, symudodd Jordan i'r DU yn 2011 i gwblhau Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews. Wedi'i ordeinio yn 2015, gwasanaethodd ei guradiaeth yn Eglwys Crist, Parc y Rhath ac ar hyn o bryd mae'n Ganon Ddiwinydd yng Nghadeirlan Llandaf. Mae Jordan yn ddiwinydd, yn siaradwr ac yn athro dawnus ac ef yw awdur Henri de Lubac a Drama of Human Existence .

Wrth fyfyrio ar ei benodiad, dywedodd Jordan, "Mae Padarn Sant yn dechrau pennod newydd gyffrous yn ei gwasanaeth i'r Eglwys yng Nghymru. Mae cenhadaeth yr Eglwys yn galw am weinidogion o ddyfnder ysbrydol, sylwedd diwinyddol, a chymeriad Cristnogol aeddfed sy'n angerddol ymroddedig i wneud Crist yn hysbys yn eu bywydau a'u gweinidogaethau. Rwy'n gyffrous iawn i arwain tîm mor dalentog yn y gwaith hanfodol hwn fel Pennaeth Athrofa Padarn Sant."

Wrth groesawu Jordan i’w rôl newydd, dywedodd Esgob Llandaf, y Gwir Barchedig Mary Stallard, sydd â chyfrifoldeb dros Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru: “Mae hwn yn benodiad hynod bwysig i’r Eglwys yng Nghymru wrth i ni geisio paratoi ein gweinidogion lleyg ac ordeiniedig yn llawn i ddod â neges Iesu i bobl Cymru. Fel Eglwys, rwy’n gwybod y byddwn yn cofio Jordan yn ein gweddïau wrth iddo ymgymryd â’r dasg hanfodol hon.”

Dywedodd Simon Lloyd, Prif Weithredwr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, sy'n goruchwylio Padarn Sant ar ran yr Eglwys: “Daw Jordan a chyfoeth o brofiad i’r swydd Arweinyddiaeth Cenedlaethol hon. Mae ei ymrwymiad profedig i alluogi eraill i ddatblygu eu galwad Gristnogol yn allweddol wrth i Badarn Sant fwrw ymlaen a gwaith yr Efengyl yn y Gymru gyfoes.”