English

Trosolwg o'r rhaglen

Hyd: 3 blynedd

  • Blynyddoedd 1-2: modiwlau a addysgir
  • Blwyddyn 3: mewnbwn ychwanegol ac ysgrifennu traethawd hir

Credydau: 180 credyd

  • 120 credyd o chwe modiwl a addysgir
  • Traethawd hir 60 credyd

Patrwm astudio: Tri bloc preswyl dwys y flwyddyn, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Mercher gyda chyfanswm o 9 diwrnod ar y safle y flwyddyn. Cynhelir addysgu preswyl yn Ysgol Padarn Sant yng Nghaerdydd.

Ynglŷn â'r rhaglen

Dilysir ein MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth gan Brifysgol Durham, un o’r prif prifysgolion ar gyfer astudio diwinyddiaeth yn y byd.

Mae gweledigaeth Athrofa Padarn Sant ar gyfer addysg diwinyddol yn cyfuno rhagoriaeth gyda ymrwymiad i ffurfiant a chenhadaeth, ac mae’r MA yn adlewyrchu hynny. Bydd yr MA yn rhoi sail da i chi mewn Astudiaethau Beiblaidd, Dysgeidiaeth Gristnogol, cenadaetheg a diwinyddiaeth ymarferol ac mi fydd yn archwilio pynciau sydd o bwys i chi.

O fewn eich pynciau dewisol, bydd y rhyddid gennych i ganolbwyntio ar faes penodol o ddiddordeb i chi neu gwreiddio eich astudiaethau ar eich sefyllfa neu ardal penodol chi.

Mae’r MA wedi ei anelu at y rheiny sy’n lleygwyr neu wedi eu hordeinio i weinidogaeth Gristnogol. Mae’r cwrs yn hefyd yn addas ar gyfer bobl sy’n gweithio ar gyfer sefydliadau para-eglwysi, lle mai’r maes cenhadu yn weithle ‘seciwlar’, neu yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gwasanaethu eu heglwys mewn modd mwy anffurfiol.

Gall hefyd fod o ddiddordeb i raddedigion astudiaethau crefydd sydd eisiau datblygu ar ei hastudiaethau blaenorol.

Sut mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno

3 modiwl y flwyddyn am ddwy flynedd wedi ei ddilyn gan flwyddyn o fewnbwn ac ysgrifennu traethawd hir. Cyflwynir mewn tri bloc dwys y flwyddyn (Dydd Llun i Ddydd Mercher) am dair blynedd ( 9 diwrnod ar ein safle yng Nghaerdydd bob blwyddyn).

Caiff cyfnodau preswyl eu cynnal ar ein safle yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd sydd yn cynnig llety en-suite, cyfleusterau arlwyo modern ac ystafelloedd dysgu pwrpasol ac ystafell gyffredin gyfforddus. Cyflwynir ein cyfnodau preswyl wyneb yn wyneb. Mae yna fanteision ffurfiannol pendant i ddysgu wyneb yn wyneb a chyfnodau preswyl. Rydym wedi gweld o brofiad, budd y sgyrsiau mae ein myfyrwyr yn ei gael gyda’i gilydd mewn darlithoedd ac yn ystod prydiau bwyd ac yn ystod gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dysgu sy’n digwydd yn ystod cyfnodau preswyl a thu allan i ddarlithoedd yn rhan hanfodol o ddysgu ym Mhadarn Sant.

Dyddiadau preswyl 2026/27

Mae tri bloc preswyl dwys y flwyddyn.

Maent yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Mercher gyda chyfanswm o 9 diwrnod ar y safle y flwyddyn.

Cynhelir addysgu preswyl yn Ysgol Padarn Sant yng Nghaerdydd.

2026

  • 7-9 Medi 2026

2027

  • 18-20 Ionawr 2027
  • 19-21 Ebrill 2027

Canlyniadau dysgu

Mae ein deilliannau dysgu ar gyfer bob modiwl yn dibynnu ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau (wedi selio ar drafodaeth), ymgysylltu â thiwtoriaid a thrafodaethau gyda myfyrwyr a darlithwyr.

Mae’r rhyngweithiad hynny rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn chwarae rôl mewn helpu chi i archwilio pwnc, gan herio a datblygu eich meddwl a dyfnha eich dealltwriaeth.

Dyma pryd mae ffurfiant yn digwydd, a dyma pam rydyn ni’n dysgu wyneb yn wyneb. Ein nod yw i grefftio profiad, yn hytrach na chyflwyno set o ddarlithoedd yn unig, er ein yn seilio hyn ar strwythur cadarn.

Y Modiwlau fydd yn cael eu hastudio

Er mwyn cwblhau’r rhaglen Meistr bydd angen cyfanswm o 180 credyd.

Mae hyn yn cynnwys chwec modiwl wedi ei ddysgu (120 credyd) ac wedi cwblhau hynny yn llwyddiannus bydwch yn mynd ymlaen i ysgrifennu traethawd hir (60 credyd). Bydd myfyrwyr fel arfer yn astudio tri modiwl y flwyddyn.

Rhestr o fodiwlau:

Y Beibl a’r Ffydd Gristnogol

Esboniadaeth yw’r grefft o ddarllen, deall ac uniaethu â’r testun Beiblaidd. Mae’n astudio’r broses o ymgysylltu a’r Ysgrithr a’n ymgais ni i wneud synnwyr ohono. Yn y modiwl hwn byddwn yn holi cwestiynau megis Sut ydyn ni’n darllen yn Beibl yn dda? Pa sgiliau sydd angen arnom er mwyn gwneud y dag honno? Oes yna ffyrdd cywir ac anghywir o ddehongli’r ysgithr ( a sut ydym yn gwybod pa un yw pu’n?) Pa amcanion ddylai lywio ein dehongliad? Sut mae darllen y Beibl yn cysylltu â rhesymeg, ffydd, emosiwn, traddodiad a chymuned? Beth yw’r ffordd orau o ddeall perthnasedd gyfoes testun Beiblaidd?

Astudiaethau Beiblaidd Uwch

Mae’r Modiwl Astudiaethau Beiblaidd Uwch yn canolbwyntio ar efengyl Ioan ac yn galluogi myfyrwyr i archwilio amrywiaeth elfen o’r testun diddorol hwn. Dechreuwn y modiwl drwy edrych at Cristoleg unigryw Ioan cyn droi at bynciau megis cenhadaeth, bod yn ddisgybl, moeseg a phwnc heriol “yr Iddewon” yn Efengyl Ioan, cyn orffen gyda archwiliad o’r ffordd y dderbyniwyd yr efengyl. Yn ystod y modiwl hwn caiff myfyrwyr y cyfle i fireinio ei sgiliau dehongli a myfyrio ar beth mae’r efengyl yn rhannu am weinidogaeth, cenhadaeth a disgyblaeth.

Ffydd Gristnogol a'r Amgylchedd

Mae Ffydd Gristnogol a’r Amgylchedd yn archwilio mewn i’r ffyrdd y gall dysgu ac ymarfer y ffydd Gristnogol yn medru datblygu ein dealltwriaeth o greadigaeth a’n perthynas â chreaduriaid eraill. Mae’r modiwl yn ystyried hanes diwinyddol a ‘gwerth’ cynhenid / gwerth ymarferol creaduriaid nad sy’n ddynol a galwedigaeth unigryw dyn o fewn y greadigaeth. Wrth wneud hyn, nod y modiwl yw galluogi ac arwain myfyrwyr at ddehongliad nodweddiadol Gristnogol, mewn ateb i gwestiynau amgylcheddol ac ecolegol heddiw.

Ymarfer Myfyriol: Cenhadaeth ac Efengylu

Bydd y cwrs hwn yn craffu ar safbwyntiau amrywiol Beiblaidd, hanesyddol, a diwniyddol ar genhadu ac yn ystyried sut ellir ei rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd lleol. Byddwn yn edrych ar amrywiaeth o ddisgyblaethau, megis diwinyddiaeth cyd-destunol ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr eglwys leol a’i chymuned, ac hefyd archwilo ystod genhadol y berthynas. Caiff myfyrwyr y cyfle i fyfyrio ar genhadaeth ac efengylu gyfoes a thrafod dulliau a strategaethau priodol ac effeithiol o waith estyn allan mewn cyd-destunau cyfoes.

Pwnc Uwch Dysgeidiaeth Gristnogol

Y Duw mae Cristnogion yn addoli a gwasanaethu y Tad, Mab a’r Ysbryd Glân, Un Duw mewn tri person. Nid yw hwn yn ychwanegiad cymhleth dewisol i’n ffydd, ond yn sail i bob dim rydym yn ei ddeall am Dduw. Bydd y modiwl yn ein helpu ni archwilio pam mai’r Duw hwn yn unig, y Tad, Mab a’r Ysbryd Glân mewn undod perffaith, yn medru bod yn Greawdwr ac yn Waredwr i ni, yn gallu ein cyfarfod mewn addoliad, yn y sacramentau ac mewn bywyd dyddiol, yn gallu fod yn obaith mewn marwolaeth a’n ymddiriedaeth yn y Deyrnas. Mae’r rhain i gyd yn ddatganiadau o ffydd, datganiadau athrawiaethol sy’n llifo drwy ddysgeidiaeth y Drindod.

Ymchwil a Myfyrio: Dulliau ac Adnoddau

Mae Myfyrio Diwninyddol yn sgil bwysig ar gyfer gweinidogaeth Gristnogol. Bydd y modiwl hwn yn archwilio natur ac ymarfer y sgil hwn. Byddwn hefyd yn edrych ar wahanol mathau o ddulliau ymchwil ac ystyried sut mae ymchwil da yn gymorth i ymarfer a gweinidogaeth Gristnogol. Caiff myfyrwyr y cyfle i ymgysylltu â phroject ymchwil bach ar bwnc o’i dewis.

Traethawd Hir: Diwinyddieth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth

Bydd y traethawd hir yn darn ysgrifenedig (15,000) o eiriau. Byddwch y cael goruchwylydd bydd yn cwrdd â chi yn rheolaidd i arwain a chefnogi chi drwy’r broses ymchwil ac ysgrifennu.

Gofynion mynediad

Bydd gan ymgeiswyr radd Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefydd fel arfer.

Mae yna lwybrau eraill posib er mwyn caniatáu pobl heb addysg ddiwinyddol ffurfiol i ymgeisio, megis rheiny sydd â profiad sylweddol o weinidogaeth. Os mai hynny yw eich sefyllfa chi, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Ffioedd dysgu

Mae Ffioedd 2026/27 fel y ganlyn:

Cymhwyster Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3
PGCert £3239 Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol
PGDip £3239 £3239 Ddim yn berthnasol
MA £3239 £3239 £1080

Llety

Mae'r gost ar gyfer llety yn cael eu godi ar wahân am £180 bob cyfnod preswyl, lluniaeth llawn. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:

Y Broses Ymgeisio

Rydym yn croesawu ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, ond i ddechrau eich hastudiaethau ym mis Medi bydd angen cyflwyno eich cais cyn 31 Gorffennaf.

Ceisiadau gan Fyfyrwyr o dramor

Nid oes gan Athrofa Padarn Sant drwydded Haen 4 sydd yn galluogi ni i noddi myfyrwyr o dramor i symud i’r DU i astudio. Serch hyn, gan fod dysgu wyneb yn wyneb ar y rhaglen MA yn cynnwys 3 cyfnod preswyl byr bob blwyddyn, os yw myfyrwyr o tu allan i’r DU yn medru mynychu’r cyfnodau preswyl ar fisa ymwelydd, byddan nhw yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen MA. Mae cael myfyrwyr o dramor yn golygu fwy o waith gweinyddu i Athrofa Padarn Sant ac am y rheswm hynny, mae yna gost o £500 y flwyddyn i bob myfyriwr heb ganiatâd i aros yn y DU

Cais nawr

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein i wneud cais am un o'n rhaglenni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymgeisio i rhaglen benodol neu os hoffech i ni gysylltu â chi cyn dechrau cwblhau'r ffurflen, rhowch wybod i ni drwy e-bostio: info@stpadarns.ac.uk

Clywch gan ein Tiwtoriaid

Cwrdd â'n Myfyrwyr