
Bûm yn arweinydd eglwys leol am 30 mlynedd – yn Esgobaeth Rhydychen yn bennaf – gan ddal swyddi fel Ficer, Gweinidog Cyswllt a Bugail Plant a Phobl Ifanc. Ro’n i’n gyfrifol am Weinidogaeth Plant a Phobl Ifanc New Wine England am 16 mlynedd. Rwyf wedi mwynhau gweinidogaethu dramor am nifer o flynyddoedd. Rwy’n mwynhau chwaraeon o bob math, ond yn chwarae sboncen yn bennaf erbyn hyn gan fy mod i’n rhy hen i chwarae rygbi ac rwy’n mwynhau bod ar fy mhadlfwrdd. Rwy’n briod â Rhian, Cymraes iaith gyntaf, ac mae gennym dri o blant, Nia, Owen ac Elliot, i gyd wedi’u geni ym Milton Keynes.
Diddordebau Ymchwil
Fy niddordebau ymchwil
Rwy’n mwynhau ymchwilio i weinidogaeth plant, pobl ifanc a theuluoedd, twf yr eglwys ac efengylu a datblygu arweinyddiaeth. Testun fy PhD oedd Efengylu ymhlith Plant a Thwf yr Eglwys. Ethnograffeg yw fy hoff gyfrwng ymchwil. Rwyf hefyd wedi bod yn ymgynhorydd i byrddau arholi AQA, OCR, Eduqas a CBAC ar gyfer TGAU a Lefel A, Astudiaethau Crefyddol.
Gwaith wedi ei gyhoeddi
1999 Fusion – Curriculum Resource Materials
2001 Impact – Curriculum Resource Materials
2002 Don’t Tell Cute Stories – Theology and Practice of Schools, Children and Family Ministry
2004 Detonate – Curriculum Resource Materials
2009 One Generation from Extinction – [Rhagair gan yr Archesgob George Carey]
2016 Hanging on Every Word – [Rhagair gan John Pritchard, cyn Esgob Rhydychen]
2018 Changing Lives – The Essential guide to Children and Family Ministry
2019 Lightbringers – Who we are in Christ (with Freedom in Christ)
2000-19 Nifer o gyhoeddiadau mewn cyhoeddiadau ymchwil (Future First ac ati)
2010-19 Youth, Children’s Work Magazine a chylchgronau poblogaidd eraill – nifer o erthyglau
2018 Review of Pentecostal and Charissmatic Studies – Practical Theology Journal
2019 Review of Re-thinking Children’s Work in Churches
2020 “The Missing Generation – The Church in Wales and Young People” published in International Journal of Missiology.
2022 Cyhoeddiad Arbennig -Youth Voice Journal : Methodological approaches to research in youth work: Changing the Paradigm erthygl â'r teitl, “The Joy of Ethnography”.
2023 Adolygiad o “Jesus, the Church and the Mission of God: A Biblical Theology of Church Planting gan John Valentine” for Expository Times
2024 Faith in the Families (gyda Lucy Moore a Rachel Turner)