English

BTh Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth

Parch Ddr Benedict Yates

Tiwtor Cysylltiol - Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd (BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth)

Ychydig amdanaf i :

  • Mae gen i amrywiaeth o ddidordebau diwinyddol ond yn benodol â diwinyddieth, Liwtrgi, Addoliad a Diwinyddiaeth y Sacramentau
  • Enillais fy noethur am draethawd hir oedd yn trafod sut wnaeth ymarfer y Rhufeiniaid o aberthu ddylanwadu ar ddatblygiad cynnar y cymun, ac rwyf wedi cyhoeddi erthyglau ar bynciau litwrgaidd.
  • Yn bresennol rwy'n gweithio ar nifer o brosiectau i'w gyhoeddi tra hefyd yn hwylusydd ac yn diwtor ym Mhadarn Sant.

Caplaniaeth

Andrew Dovey

Tiwtor Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Am 35 mlynedd roeddwn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu nwy ac olew, fel Rheolwr Caffael a Chytundebau ac yna fel ymgynghorydd i Gwmnïau Olew a nwy. Cefais fy ordeinio yn 2007
  • Cyn dechrau fy swydd llawn amser fel Caplan Eciwmenaidd i’r Ymddiriedolaeth GIG Aciwt, roeddwn yn Gaplan Carchar HMP Wandsworth am dair blynedd yn rhan amser ac 8 blynedd fel gwirfoddolwr i’r Ymddiriedolaeth rwy bellach yn gweithio.
  • Ers cyflawni fy noethur Caplaniaeth Iechyd ym Mhadarn Sant rwyf wedi fy mhenodi yn Ymgynghorwr i’r esgob ar ofal iechyd ac yn Llysgennad i’r Coleg i Gaplaniaid Iechyd ac yn aelod o’r pwyllgor Rhwydwaith Gofal Bugeiliol, Ysbrydol a Chrefyddol yng ngofal iechyd.
  • Yn bresennol rwy’n Bennaeth Caplaniaeth a Gofal Ysbrydol ac yn Rheolwr Profedigaeth i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Iechyd Croydon sydd â dau Ysbyty, 15 o hybiau cymunedol a thimau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion.

Jim Francis

Tiwtor Cysylltiol

Paul Nash

Tiwtor Cysylltiol

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

George Lings

Darlithydd Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Rwy’n gyn Cyfarwyddwr Ymchwil i’r Church Army, a hefyd yn gydawdur adroddiad Mission Shaped Church. Rwyf hefyd wedi cyfrannu at amrywiaeth o lyfrau ac adroddiadau yn trafod Llan Llanast a phrosiectau eraill. Mae gennyf blynyddoedd o brofiad mewn myfyrio diwinyddol ac addysgu.

Lisa Lyall

Darlithydd Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Mae gennyf 25 mlynedd o brofiad yng ngweiidogaeth plant ac wedi lawnsio sawl menter newydd ac adeiladu tîmmawr o araweinwyr
  • Rwyf hefyd yn arwain tîm y Ddeyrnas Unedig ar gyfer un o’r enwadau Pentocostaidd gan gynnal cynhadledau a galluogi a hyfforddi gweithwyr.
  • Rwy'n angerddol dros fuddsoddi mewn eraill

Yvonne Morris

Tiwtor Cysylltiol

Ychydig amdanf i:

  • Rwy’n awdur ac yn Ymgynghorwr Plant i Esgobaeth Rhydychen yn helpu, cefnogi, hyfforddi a chynghori eglwysi a’u gweithwyr am eu gweinidogaeth plant.
  • Rwyf hefyd dal i weinidogaethu yn lleol yn Eglwys Sant Mathew a Sant Luc yn Rhydychen, lle roeddwn yn Weinidog Plant, Pobl Ifanc am 10 mlynedd a hanner cyn dechrau fy swydd gyda’r esgobaeth.

Gary Smith

Tiwtor Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Yn dilyn gweithio i’r Boys Brigade am nifer o flynyddoedd, yn helpu lawnsio a datblygu mentrau’r Boys Brigade ar draws y DU, fe ddechreuais sefydliad o’r enw Big Ideas oedd yn adnabyddus am ei menter cenhadu Ignite.
  • Bum hefyd yn helpu i ddatblygu Bugeiliaid Stryd Caerdydd sy’n trefnu bod Cristnogion wedi ei hyfforddi yn gweithio ar srydoedd canol y ddinas ar nos Wener a nos Sadwrn.
  • Yn bresennol rwy’n Gyfarwyddwr Hybiau y DU yn goruchwylio gweithwyr yng Nghymru, yr Alban a’r Canolbarth a’m prif ffocws ydy Datblygiad Arweinyddiaeth

Matt Summerfield

Tiwtor Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Rwy’n Weinidog Uwch gyda Zeo Church ac o 2000-2018 roeddwn yn Prif Swyddog Gweithredol ac yn mwy diweddar yn Lywydd ar fudiad plant a bobl ifanc Urban Saints
  • Rwy’n angerddol dros rhyddhau’r potential ym mhobl, timau a sefydliadau gyda tuedd penodol at weld plant a bobl ifanc yn byw antur mawr Duw.

Chloe Swart

Tiwtor Cysylltiol
  • Rwy’n byw yn Abertawe ac yn gweithio yn fy Eglwys leol Cornerstone fel gweithiwr myfyrwyr a hefyd yn bennaeth ar Alpha Cymru
  • Rwyf hefyd yn astudio Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth yn astudio gwyrthiau iachau yng Nghymru.

Rachel Turner

Tiwtor Cysylltiol

Ychydig amdanaf i:

  • Rwy’n Arloeswr Parenting for Faith gyda’r Gymdeithas Darllen Beibl (Bible Reading Fellowship) ac rwyf wedi gweithio mewn eglwysi am dros 12 mlynedd fel Gweinidog Bywyd Teuluol a Gweinidog, Gweinidog Plant a phobl ifanc.
  • Rwy’n parhau i ymgynghori, siarad mewn cynadleddau a chynnal diwrnodau hyfforddiant i rheini a gweithwyr plant a phobl ifanc ar draws y DU ac Ewrop
  • Rwyf hefyd yn awdur pedwar o lyfrau ar Parenting for Faith.