
Yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau, symudais i’r Alban yn 2011 i astudio Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews dan oruchwyliaeth yr Athro John Webster. Yn 2015 fe gefais fy apwyntio yn Diwtor Diwinyddiaeth yng Ngholeg San Mihangel cyn ymuno â’r tîm ym Mhadarn Sant yn 2016 yn Diwtor Preswyl a Thiwtor Diwinyddiaeth. O 2016-2019, roeddwn hefyd yn gwasanaethu fel Curad Cynorthwyol i Eglwys Crist, Parc y Rhath. Yn ogystal ag addysgu ym meysydd diwinyddiaeth Gristnogol a moeseg, rwy’n goruchwylio’r gymuned llawn amser o ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth ym Mhadarn Sant, Caerdydd. Rwy’n byw yn Llandaf gyda fy ngwraig Krisi a’n merch Keira, a’n corhelgi drygionus Willow.
Gallwch gysylltu â mi ar:
jordan.hillebert@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 563379
Diddordebau Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud yn bennaf â meysydd diwinyddiaeth systematig a meddwl Cristnogol modern. Mae fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio’n benodol ar ddiwinyddiaeth Henri de Lubac and the Drama of Human Existence (Gwash Notre Dame, 2021)- fi yw golygydd y T&T Clark Companion to Henri de Lubac (2017). Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys etifeddiaeth ddiwinyddol Augustine a Thomas Aquinas, anthropoleg Gristnogol, natur diwinyddiaeth, athrawiaeth creu, diwinyddiaeth ecolegol / moeseg amgylcheddol, natur diwinyddiaeth, gweddi a myfyrio, ac ymatebion diwinyddol i foderniaeth. Rwy’n falch bob amser o glywed gan ddarpar fyfyrwyr MPhil/PhD sydd â diddordeb yn yr uchod neu faes cysylltiedig.
Gwaith wedi ei gyhoeddi
Being in Mystery: Henri de Lubac and the Drama of Human Existence (University of Notre Dame Press, 2021)
T&T Clark Companion to Henri de Lubac (T&T Clark, 2017)
‘Conviviality,’ in Mark Clavier, ed., A Convivial Church: Global Perspectives on Living Well with God, Creation, and Each Other (forthcoming, Wipf & Stock)
‘Henri de Lubac,’ in Philip Ziegler and R. David Nelson, eds., T&T Clark Handbook of Modern Theology (forthcoming, T&T Clark)
‘Introducing Henri de Lubac,’ Jordan Hillebert, ed., T&T Clark Companion to Henri de Lubac (T&T Clark, 2017), 3-27.
‘The Death of God and the Dissolution of Humanity,’ New Blackfriars 96, 1060 (2014): 674-88.