English

Astudiodd Catherine Ffrangeg a Rwsieg yn wreiddiol ym Mhrifysgol Manceinion, cyn ymuno â Swyddfa Cymru fel Swyddog Gweithredol lle treuliodd dair blynedd yn gweithio yn yr Adran Gynllunio ac Adran Addysg Bellach ac Uwch. Yna aeth ymlaen i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Sant Mihangel a chafodd ei hordeinio yng Nghadeirlan Llandaf yn 1996.

Gwasanaethodd Catherine ddwy guradaeth yn Esgobaeth Llandaf, cyn dod yn Ficer ar blwyfi Cwm Irfon a Blaenau Irfon yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Ar ôl dwy flynedd fel Caplan i Ysgol Ferched Haberdashers’ Monmouth, bu’n gweithio yn Ardal Weinidogaeth Trefynwy fel offeiriad ymgysylltu cymunedol.

Yn ogystal â gwaith plwyf, bu Catherine yn Gynghorydd Plant Esgobaethol yn Llandaf a Threfynwy; Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol yn Abertawe ac Aberhonddu; ac yn aelod o’r Corff Llywodraethol. Mae’n gwasanaethu ar y Comisiwn Liturgaidd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru, y Grŵp Liturgaidd Cydweithredol Prydain Fawr (gan gynnwys y Grŵp Angladdau Eglwysig a’r Pwyllgor Liturgaidd Iaith Saesneg), a’r Ymgynghoriad Liturgaidd Anglicanaidd Rhyngwladol.

Yn ei hamser hamdden, mae Catherine yn Gaplan ATC ac yn Gaplan i’r Môr-filwyr Ifanc ac i Gymdeithas y Llynges Frenhinol. Mae hefyd yn llywodraethwr yn ei Hysgol Gyfun leol. Mae’n ymlacio drwy ddarllen, astudio a cherdded gyda ffrindiau a’u cŵn.

Diddordebau Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys litwrgi a Hanes yr Eglwys. Rwy’n aelod o Societas Liturgica, y Gymdeithas Astudio Litwrgi, y Gymdeithas Hanes Eglwysig a Chlwb Alcuin. Fel rhan o grŵp trafod ym Mhrifysgol Durham, rwy’n archwilio goblygiadau diwinyddol a litwrgaidd ar gyfer ymarfer arfaethedig Hydrolysis Alcalïaidd mewn angladdau.

Gwaith wedi ei gyhoeddi

Eglwys yng Nghymru: Papurau

2021: Pan fydd y Theori’n Cwrdd â’r Ymarfer: Litwrgi a Chenhadaeth. Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru

2023: Litwrgi a Chenhadaeth a’i Goblygiadau i Eglwys Heddiw. Grŵp Litwrgi ac Efengylu yr Eglwys yng Nghymru

Anaphora: Cyhoeddiadau Cylchgrawn

2011: Litwrgi a Chenhadaeth ymhlith Plant mewn Riwtiliaeth Anglicanaidd hwyr y Fictoriaid

2012: Adolygiadau Llyfrau: Jane Williams. ‘Lectionary Reflections: Years A, B, and C’ a James Woodward, Paula Gooder & Mark Pryce. ‘Journeying with Mark: Lectionary Year B’

2014: Defnydd a Dylanwad Litwrgi Anglicanaidd mewn Addysg Plant yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Cymdeithas Hanes Eglwysig: Papurau

Gorffennaf 2017: Effaith Datblygiad Litwrgaidd yn Eglwys Loegr ar Addoli mewn Ysgolion yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Caerwysg, DU

Gwasg Prifysgol Rhydychen: Pennod Llyfr (cyhoeddiad yn 2025)

‘O Wythnos i Wythnos? Llyfr y Weddi Gyffredin a Mynd i’r Cymun o 1549 hyd Heddiw’ yn Paul Bradshaw, Luiz Coelho, Ruth Meyers, gol. Oxford Handbook of the Book of Common Prayer

Routledge: Llyfr (cyhoeddiad yn 2025/6)

Sut Newidiodd Addoli Plant yr Eglwys: Riwtiliaeth, Litwrgi a Phlant yn Eglwys Loegr ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Societas Liturgica: Papurau

Awst 2015: Ffurfiant Litwrgaidd Plant drwy’r Cymun yn Eglwys Loegr ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Quebec, Canada

Awst 2017: Dylanwad Emynau Plant ar Eglwysoleg Eglwys Loegr yn y 19eg Ganrif. Leuven, Gwlad Belg

Cymdeithas Astudio Litwrgi: Papurau

Ebrill 2012: Defnydd o’r Beibl mewn Litwrgi a Chenhadaeth ymhlith Plant mewn Riwtiliaeth Anglicanaidd hwyr y Fictoriaid. Coleg y Brenin, Llundain

Awst 2014: Defnydd a Dylanwad Litwrgi Anglicanaidd mewn Addysg Plant yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Mirfield, DU

Awst 2022: Gwrthdaro Eglwysol a Newid Litwrgaidd. Mirfield, DU

Prifysgol Helsinki

Traethawd ThD: Riwtiliaeth, Plant a Newid Litwrgaidd yn Eglwys Loegr ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Helsinki. Unigrafia, Rhagfyr, 2022. ISBN 978-951-51-8794-9

Gallwch gysylltu â mi ar:

Ffôn: 02920 563379