Yn wreiddiol o Doc Penfro yn ne Sir Benfro rwyf wedi treulio rhan fwyaf fy mywyd yn byw mewn gwahanol rannau prydferth o Orllewin Cymru. Fi yw cenhedlaeth gyntaf fy nheulu i ennill gradd, ac fe astudiais fy ngradd gyntaf mewn Hanes a Mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn dilyn hynny fe euthum ymlaen i astudio gradd Meistr yn Hanes yr Eglwys yn Brifysgol Cymru, Llambed ac yn gwneud cwrs TAR Addysg Gynradd Iau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod fy ngyrfa yn dysgu mewn ysgolion cynradd yn Sir Benfro, tyfodd fy ngalwad at yw weinidogaeth ordeiniedig ac fe archwiliais y galwad drwy astudio cwrs Diwinyddiaeth (rhagflaenodd Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd) am ddwy flynedd yn rhan-amser. Yn 2013 cychwynnais fel ymgeisydd yn Llandaf ac yn ystod y blynyddoedd hynny fe astudiais Ddiploma Ôl-radd mewn Diwinyddiaeth Ymarferol a chychwyn gweithio ar fy Noethur mewn esboniadaeth ddiwylliannol gyda Phrifysgol Caerdydd. Yn fwy pwysig efallai yn ystod fy nghyfnod yn y coleg, fe gwrddais â fy ngwraig hyfryd Becky, sydd hefyd yn weinidog ordeiniedig i’r Eglwys yng Nghymru.
Ers fy ordeinio yn 2016, rwyf wedi gwasanaethu amrywiaeth o blwyfi yn Esgobaeth Tyddewi ynghyd a datblygu profiad mewn gweinidogaeth caplaniaeth, a bod yn ymwybodol o heriau a llawenydd cenhadaeth gyfoes yng Nghymru. Ochr yn ochr â gweinidogaeth llawn amser fe astudiais fy Noethur a dechrau gweithio fel Cynorthwyydd Dysgu Ôl-radd ym Mhadarn Sant cyn dechrau yn fy swydd bresennol.
Pan nad wyf yn gweithio rwy’n mwynhau dysgu chwarae’r delyn, cerdded, padl fyrddio a bwyta bwyd!
Diddordebau Ymchwil
Mae gennyf ddiddordebau eang mewn diwinyddiaeth ac astudiaethau Beiblaidd. Ond mae gennyf ddiddordeb penodol yn y berthynas rhwng y ffydd Gristnogol a diwylliannau, yn ogystal â chwestiynau o amgylch twf eglwysi cyfoes. Rwyf hefyd â diddordeb mewn cwestiynau o amgylch rhywioldeb (hetero) a sut caiff ei bortreadu yn yr Ysgrythur, a sut gaiff ei ddehongli yn niwylliant eglwys ac yn niwylliant yn ehangach.
Gwaith wedi ei gyhoeddi
Evans, A. (2022) Dating, Desire, and the Song of Songs: Constructing Some Parameters for an Emerging Adult ‘Theology of Dating’. Doethur.Prifysgol Caerdydd.
Evans, A. (2023) ‘Critiquing the Five Marks of Mission in the Light of British Chaplaincy Studies’, in. Conflict, Confluence and Creativity: Interrogating the Five Marks of Mission, USPG (Fellowship of Anglican Scholars of Theology) – Cynhadledd Ar-lein.