
Yn wreiddiol o Gastell Nedd, De Cymru, astudiais ddiwinyddiaeth yn israddedig yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen cyn cyflawni fy ngradd meistr ar Ddiwinyddiaeth Islamaidd yn SAOS Prifysgol Llundain. Yn dilyn nifer o flynyddoedd fel ymgynghorydd rheoli a rheolwr prosiectau, teimlais y dynfa yn ôl at ddiwinyddiaeth, gan gyflawni gradd meistr mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Bedyddwyr Caerdydd ynghyd â ffurfiant i’r weinidogaeth a gweinidogaethu mewn eglwys Bedyddwyr yng Nghaerdydd. Rwyf bellach yn gymrawd cyswllt i’r Academi Addysg Uwch ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn ymarferion dysgu creadigol sy’n ymgysylltu â’r cyfoeth o amrywiaethau a dulliau dysgu. Rwy’n byw ym Mhen-y-bont gyda fy ngŵr Ben ac rwy’n nofiwr tu allan brwd, ac yn treulio gymaint o amser ac y galla i ar y traeth.
Diddordebau Ymchwil
Rwy’n ddiwinydd ymarferol yn y bôn ac rwy’n angerddol am fyfyrio’n ddwfn ar ein ffydd, ein hymarfer crefyddol ac ar ein realiti ymgorfforol, cymdeithasol a materol. Fel ymddiriedolwr o Gymdeithas Prydain ac Iwerddon ar Ddiwinyddiaeth Ymarferol( British and Irish Association of Practical Theology (BIAPT), rwy’n ymrwymedig i ymchwil a thrafodaeth am yr oll mae diwinyddiaeth ymarferol yn ei gynnig ymysg anawsterau'r byd cyfoes. Rwy’n gyffrous am ddulliau diwinyddol creadigol ac ar hyn bryd yn ymchwilio gwerth hunanethnograffeg(autoethnography) fel modd o wneud diwinyddiaeth sy’n ein galluogi ni i wrando’n ddwfn i straeon nad ydyn ni fel arfer yn eu clywed.
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar gwblhau fy noethur mewn diwinyddiaeth ymarferol, sy’n ymchwilio ffyrdd ,mae profiadau o ffydd ac iselder yn medru llunio syniadau ac ymarfer diwinyddol unigol a grwpiau. Mae gennyf ddiddordeb personol dofn mewn iechyd meddwl a lles ac yn hwyluso cyrsiau a thrafodaethau ar y pwnc i eglwysi, rhwydweithiau arloesol a cholegau diwinyddol.
Mae gennyf ddiddordeb hefyd am ddeall y berthynas rhwng ffydd a cherddoriaeth ac ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect gyda Dr. Stephen B. Roberts ar arwyddocâd ‘ creu rhestrau chwarae’ fel modd o rannu ymarfer diwinyddol. Fe gyflwynon ni bapur ar hyn ‘Ecclesiology and Ethnography 2025’, gweithdy a hwyluswyd yn BIAPT 2025, a hefyd fe gyhoeddon ni pennod llyfr gyda mwy i ddod.
Gwaith wedi ei gyhoeddi
“Sounding the Depths: Reflections on playlist as pilgrimage through collaborative autoethnographic musicking” in Boyce-Tillman, J. (2025) Autoethnographies in Music, Spirituality and Wellbeing. London: Peter Lang.