
Ychydig amdanaf i
Dechreuais fy ngyrfa mewn rôl greadigol fel dylunydd gemwaith a gwneuthurwr propiau a gwisgoedd yn Llundain a Brighton cyn symud i Gymru a hyfforddi fel athrawes yn 2012.
Ar ôl cymhwyso, datblygais ddiddordeb mewn Anawsterau Dysgu Penodol (SpLDs), gan gynnwys dyslecsia. Arweiniodd hyn at rôl fel Tiwtor Cymorth Arbenigol Dyslecsia ac SpLD yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Tra yno fe astudiais tuag at gymhwyster ôl-raddedig mewn Anawsterau mewn Datblygu Llythrennedd gyda'r Brifysgol Agored. Yn ddiweddarach, symudais ymlaen i fod yn Gydlynydd Cymorth SpLD.
Yn dilyn hynny, enillais fy Nhystysgrif Ymarfer Asesu SpLD (APC) trwy Patoss (Cymdeithas Broffesiynol Athrawon Myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol) a chwblheais MA mewn Addysg yn UWTSD.
Ers 2016, rwyf wedi cynnal achrediad APC parhaus fel asesydd diagnostig ac rwy'n aelod proffesiynol o Patoss. Yn ogystal â dyslecsia, mae fy ngwaith asesu yn cynnwys adnabod ADHD mewn pobl ifanc ac oedolion.
Ochr yn ochr â'm rôl fel Tiwtor Ymgynghorol Cymorth Dysgu ac Anabledd yn Athrofa Padarn Sant, rwy'n gweithio fel Tiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol i Brifysgol Abertawe, yn cefnogi myfyrwyr ag amrywiaeth o wahaniaethau dysgu ac anableddau.
Rwyf hefyd yn darparu asesiadau diagnostig a thiwtora preifat, gan weithio'n rheolaidd gyda sefydliadau gan gynnwys yr elusen Dyslecsia Cymru a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.