Dechrau eich hyfforddiant ar gyfer y Weinidogaeth Drwyddedig
Dechrau eich Hyfforddiant i'r Weinidogaeth
Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ar eich taith tuag at weinidogaeth ordeiniedig neu drwyddeidg. Rydym ni'n galw hyfforddiant yn 'ffurfiant' am ein bod yn credu yn ystod y cyfnod hwn y peth fwyaf pwysig yw eich bod yn tyfu hyd yn fwy i'r person mai Duw yn eich galw chi i fod. Nid yw am ddysgu ffeithiau neu sgiliau yn unig, ond hefyd tyfu ac aeddfedu yng Nghrist.
Fel arfer, mae Hyfforddiant ym Mhadarn Sant yn ddwy neu dair blynedd, yn llawn amser neu ran amser. Bydd ymgeiswyr rhan amser wedi eu lleoli adref ac yn gwasanaethu mewn lleoliad lleol. Bydd ymgeiswyr llawn amser yn mynychu Athrofa Padarn Sant Caerdydd am 48 awr Dydd Mercher - Gwener am 24 wythnos y flwyddyn ynghyd a gwasanaethu 2 ddiwrnod yr wythnos mewn ar leoliad yn lleol. Bydd pob ymgeisydd yn dilyn patrwm cyffredin o gyfnodau preswyl lle rydyn ni’n dysgu am ddiwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth gyda’n gilydd. Mae’r dyddiadau ar gael yn gynnar a gallwch eu gweld nhw fan hyn. Mae mynychu pob rhan o’r hyfforddiant yn hanfodol felly nodwch y dyddiadau yn eich dyddiadur nawr.
Cwrdd â'n hymgeiswyr
Pedair elfen sylfaenol ein hyfforddiant yw:
Dysgu Diwinyddol
Rhan allweddol o ffurfiant yw tyfu eich gwybodaeth am Dduw, ac mae pob un sy’n hyfforddi yn dilyn rhyw fath o gwrs diwinyddol. Bydd rhan fwyaf o ymgeiswyr yn astudio’r rhaglen Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd (BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth a gaiff ei ddilysu gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant ac wedi ei gynllunio yn benodol i anghenion gweinidogaeth a disgyblaeth.
Os oes gradd gennych chi mewn diwinyddiaeth gallwch astudio cwrs ôl-radd, fel arfer yr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth a ddilysir gan brifysgol Durham. Os oes gennych radd ôl-radd byddwch fel arfer yn astudio gradd ymchwil. Rydym ni’n eich annog chi i gyflawni i’ch llawn botensial yn nhermau cymwysterau diwinyddol- mae angen ar yr Eglwys yng Nghymru addysgwyr diwinyddol yn y dyfodol. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib os oes angen i chi drafod eich dysgu diwinyddol.
Diwinyddiaeth ac Ymarfer Gweinidogaeth
Byddwch yn mynychu pedair cyfnod preswtl y flwyddyn ac wythnos o ysgol haf ( fel arfer y drydedd wythnos yn mis Awst) a thri penwythnos. Nod y cyfnodau preswyl yw archwilio a datblygu hyder mewn diwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaethol. Bydd pynciau trafod y cyfnodau preswyl yn cynnwys dysgu am bregethu, gofal beugeiliol, digwyddiadau bywyd, addoliad pob oed a thyfu cymunedau Cristnogol newydd. Bydd Cyfnodau Preswyl hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd fan arweinwyr pwysig a meddylwyr pwysig yn yr Eglwys yng Nghymru a thu hwnt, addoliad wedi eu harwain gan ymgeiswyr ag amser ar gyfer adeiladu cyfeillagarwch ac ymgeiswyr eraill.
Grwpiau Ffurfiant
Bydd Grwpiau Ffurfiant yn cynnwys 3-5 o ymgeiswyr yn cyfarfod a’i gilydd yn rheolaidd gyda Tiwtor Ffurfiant yn eu harwain wrth fyfyrio ar eu ffurfiant. Lle yw hen i ymgeiswyr fyfyrio ar elfennnau heriol a elfennau sy’n rhoi mwynhad o’r hyfforddiant i’r weinidogaeth, ffyrdd maen nhw wedi tyfu / datblygu, a phethau maen nhw wedi ei ddysgu am ei hunain, a phwyntiau cysywllt rhwng agweddau amrywiol eu hyfforddiant a’u ffurfiant
Lleoliadau
Byddwch yn dod yn rhan o dim gweinidogaethu tra ar eich lleoliad ac yn ennill profiad ymarferol gyda chefnogaeth gweinidog profiadol. Mae gennym ni diwtor penodol sy’n trefnu lleoliadau. Bydd ymgeiswyr llawn amser yn gwneyd 2 ddiwenod ar leoliad bob wythnnos ac mi fydd ymgeisywr rhan amser yn gwneud 4 awr yr wythnos.
Y Rhaglen llawn amser
Os ydych yn hyfforddi’n llawn amser byddwch fel arfer yn mynychu y rhaglen Dydd Mercher i Gwener yn Nghaerdydd am 24 wythnos y flwyddyn, ynghyd â chwe diwrnod Ffurfiant mewn hwb yn agos i chi. Mae rhai ymgeiswyr yn byw ar y safle yng Nghaerdydd, ond mae rhan fwyaf o ymgeiswyr yn aros lle maen nhw ac yn byw ac yn gwasnaethu mewn cyd-destun lleol ac yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y rhaglen Dydd Mercher i Gwener. Mae’r rhaglen Dydd Mercher i Gwener yn cynnwys addoliad rheolaidd wedi ei harwain gan ymgeiswyr, dysgu mewn dosbarth, grwpiau ffurfaint ymegiswyr, a phrydiau bwyd ar y cyd a chyfeillgarwch.
Oes yn rhaid i mi dalu am y cwrs hwn?
Na. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn darparu grantiau i bobl sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidoageth. I ymgeiswyr rhan-amser mae hyn yn £435 y flwyddyn ac fe delir costau teithio. I ymgesiwyr llawn amser mae grantiau ar gael i dalu am gostau byw sylfaenol. Caiff y grant hwn ei gyfrifo’n unigol yn ddibynnol ar cartref, incwm y cartref a chostau byw arall. Unwaith y bydd Athrofa Padarn Sant yn derbyn ffurflen noddi gan eich Esgobaeth bydd y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i adran Gyllid yr Eglwys yng Nghymru. Byddan nhw yn danfon gwybodaeth am grantiau y gallwch hawlio ac yn danfon ffurflenni i chi gwblhau er mwyn ymgeisio am grant.
I’r ymgeiswyr newydd sy’n byw mewn cartref i glerigion yn barod, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr
Os ydych chi'n byw ar y safle yn Padarn Sant tra'n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, gosodwch eich 'nifer o ystafelloedd gwely' a'ch 'rhent/morgais misol' i 0 yn y ffurflen isod.
Gan fod amgylchiadau pawb yn wahanol, cysylltwch â Siân Trotman, Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr sy'n ymdrin â grantiau, ac yn hapus iawn i'ch helpu.
Fel arfer bydd y penderfyniad yn cael ei gwneud rhwng eich esgob, swyddog gweinidogaeth, ac mewn ymgynghoriad â ni ym Mhadarn Sant. I lywio’r penderfyniadau hyn mae bainc yr esgobion wedi cytuno i’r canllawiau isod ar gyfer hyfforddiant ar gyfer ordeiniad:
I’r rhai hynny sy’n dechrau gweinidogaeth llawn amser:
Y disgwyliad yw 3 blynedd o hyfforddiant llawn amser i bawb sy’’n hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth gyflogedig
Os oes gan ymgeisydd brofiad sylweddol o’r Weinidogaeth Leyg Drwyddedig, byddai’n addas i ystyried 2 flynedd o hyfforddiant.
Os oes gan ymgeisydd brofiad bywyd sylweddol a sgiliau trosglwyddadwy, mae’n bosib byddai 2 flynedd yn addas. Byddai hwn yn cael ei gynllunio yn gan ddefnyddio meini prawf blaenoriaethau'r esgobion
Os oes gan ymgeisydd gymwysterau diwinyddol yn barod ( megis Tystysgrif Addysg Uwch, Diploma Addysg Uwch neu radd israddedig neu ôl-radd) mae’n bosib y byddai modd ystyried dwy flynedd o hyfforddiant.
Mae’n bosib y bydd ymgeiswyr sydd â gradd neu uwch mewn diwinyddiaeth barod, ac yn benodol, os oes ganddynt y potensial i addysgu diwinyddiaeth, eu hannog i gwblhau gradd MA neu radd ymchwil.
Dylai'r rheiny sy’n dechrau gweinidogaeth ordeiniedig llawn amser fod wedi cwblhau o leiaf diploma mewn diwinyddiaeth erbyn diwedd eu hyfforddiant.
Mewn eithriadau prin gallwn ddatblygu hyfforddiant diwinyddol wedi ei deilwra ochr yn ochr â agweddu eraill o ffurfiant, serch hyn mae’n well gennym ymgeiswyr yn gweithio tuag at gymhwyster os yw hynny’n bosibl.
Dwy flynedd o hyfforddiant yw’r isafswm rydym ni’n argymell ar gyfer gweinidogaeth llawn amser, heblaw mewn amgylchiadau anarferol megis gweinidog ordeiniedig o enwad arall yn dechrau gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, neu am resymau eraill megis oed neu brofiad sylweddol
I’r rhai hynny sy’n dechrau gweinidogaeth ran-amser / gweinidogaeth
digyflog ordeiniedig
Bydd y rheiny sy’n dechrau gweinidogaeth ran-amser / gweinidogaeth ddigyflog ordeiniedig fel arfer yn hyfforddi’n rhan amser.
3 blynedd yn rhan-amser sy’n arferol (am y rheswm hwn rydym yn annog ymgeiswyr posib i weinidogaeth ran-amser i ddechrau astudio Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd am flwyddyn yn ystod y broses dirnad fel eu bod yn gallu cwblhau eu diploma mewn diwinyddiaeth yn ystod eu tair blynedd o hyfforddiant)
Bydd y rheiny na fydd yn medru ennill diploma erbyn diwedd eu hyfforddiant yn golygu trafodaethau ymhellach.
Os oes gan ymgeisydd brofiad sylweddol o’r Weinidogaeth Leyg Drwyddedig gall fod 2 flynedd o hyfforddiant yn addas.
Os yw ymgeisydd â gradd diwinyddiaeth neu mewn rhai amgylchiadau ddiploma, gall 2 flynedd o hyfforddiant fod yn addas.
Mewn eithriadau prin gallwn ddatblygu hyfforddiant diwinyddol wedi ei deilwra ynghyd ag agweddau eraill ffurfiant, serch hyn y disgwyliad ar gyfer y rhan helaeth byddai eu bod yn gweithio tuag at gymhwyster diwinyddol.
Mae hyfforddiant rhan amser yn golygu tua 15 awr yr wythnos. Bydd hwn yn cynnwys lleoliad, dysgu diwinyddol, cyfnodau preswyl a chelloedd ffurfiannol. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried yn ofalus iawn os fydd yr ymrwymiad amser hwn yn gweithio i chi cyn i chi ddechrau’r broses dirnadaeth a hyfforddiant. Byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn helpu chi i flaenoriaethu eich amser os ydych yn cael eich noddi ar gyfer hyfforddiant gan eich esgob. Bydd angen i chi hefyd ystyried a fyddwch yn rhoi o’ch amser i gyfnod preswyl wythnos ynghyd â thri chyfnod preswyl dros y penwythnos y flwyddyn. Mae hyfforddi i’r weinidogaeth yn ymrwymiad pwysig i’w gwneud, ac rydyn ni’n hapus i drafod gyda chi beth fydd disgwyliadau hyfforddi.
Bydd pob ymgeisydd â thiwtor ei hun fydd yn gweithio gyda nhw ar ei ffurfiant mewn cyfarfodydd rheolaidd. Mae yna hefyd cymorth i’r rhai hynny â anghenion dysgu ac mae’r tiwtoriaid i gyd yn hawdd fynd ato, cyfeillgar ac yn barod i helpu. Mae staff ehangach yr athrofa hefyd yn hapus i helpu gyda pob math o ymholiadau a chwestiynau cyllid ac i helpuy chi gyd cael mynediad i’r llyfrgell ac adnoddau eraill.
Os ydych yn newydd i astudio diwinyddiaeth, cadwch olwg allan am ein cyrsiau blasu caiff ei hysbysebu yn y gaeaf a chael eu cynnal yn y Gwanwyn. Bob blwyddyn rydym ni’n cynnal diwrnodau a nosweithiau agored a gwnewch yn siŵr eich bod yn bwcio un o rain. Bydd y rhain i gyd yn cael eu hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol ac felly byddem yn argymell i chi ddilyn ni. Rydyn ni hefyd yn danfon gwybodaeth allan i’r esgobaethau ac i Gyfarwyddwyr Esgobaethol a chyfrifoldeb dros Ymgeiswyr. Darllenwch y wybodaeth i gyd yn ofalus i ymgyfarwyddo â’r cwrs. Pob gaeaf rydym ni hefyd yn cynhyrchu ac yn lanlwytho pamffled Llongyfarchiadau: Rydych chi wedi eich derbyn i hyfforddi yn Athrofa Padarn Sant! Mae yna wybodaeth ddefnyddiol yma gan gynnwys dyddiadau yn y flwyddyn i ddod.
Yn dilyn rownd olaf y paneli dirnad, mae’r Cyfarwyddwr Esgobaethol a chyfrifoldeb dros Ymgeiswyr (DDO) yn danfon enwau'r unigolion sydd wedi eu derbyn i hyfforddi. Bydd tiwtor wedyn yn cysylltu â chi i gael sgwrs am eich hyfforddiant. Nid oes angen i chi gysylltu â ni fyddwn ni yn cysylltu â chi. Darllenwch y wybodaeth ar y wefan yn ofalus cyn y sgwrs honno a meddwl am unrhyw gwestiynau hoffech ei ofyn. Wedi dweud hynny os oes gennych ymholiad neu bryder penodol mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol.
Ar y dudalen hon y byddwch hefyd yn dod o hyd i’r llawlyfrau cyfredol
Gallwch ddarllen fwy am Baratoi ar gyfer Athrofa Padarn Sant isod:
Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn ar gyfer hyfforddi
Mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant a beth i ddisgwyl