
Trosolwg
Bydd yr Adolygiad o Ddatblygiad yn y Weinidogaeth (MDR) yn gyfrwng i hwyluso trafodaeth dan arweiniad ynghylch gweinidogaeth yr esgob. Pwrpas yr adolygiad yw edrych yn ôl a myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y deunaw mis diwethaf o weinidogaeth a defnyddio hynny i gynllunio, rhagweld a datblygu gweledigaeth fwy eglur ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Wrth edrych yn ôl mae cyfle i gydnabod popeth y gallwn fod yn ddiolchgar amdano a’r pethau hynny sy'n destun gofid. Wrth edrych ymlaen mae cyfle i ragweld gofynion newidiol y rôl, nodi amcanion i’r dyfodol, a sefydlu meysydd ar gyfer datblygiad posibl
Mae MDR wedi'i seilio ar y rhagdybiaeth bod pob gweinidog yn atebol i Dduw am y weinidogaeth a roddwyd yn eu gofal, ac i’r Eglwys ac i’w gilydd am y ffordd y caiff ei gweinyddu. Mae atebolrwydd yn cynnwys parodrwydd i dyfu a datblygu ar sail profiad a'r hyn a ddysgwyd o’r profiad hwnnw. Yr elfennau sylfaenol yw cadarnhad, anogaeth a her yn ogystal â chytundeb i gynllunio ar gyfer twf a datblygiad personol yn y weinidogaeth.
Mae MDR yn ceisio annog gweinidogion i ailystyried yr addewidion a wnaed adeg eu hordeinio i "ymroi i weddi ac i astudio'r Ysgrythur Lân ac i gymhwyso eich hunain ar gyfer gweinidogaeth yr Eglwys" ac i fyfyrio ar berthnasedd yr addewidion hyn wrth arfer eu gweinidogaeth yn eu cyd-destun presennol. Cynhelir adolygiad bob deunaw mis o leiaf ac mae wedi'i gynllunio i annog:
- proses barhaus o fyfyrio a dysgu yn seiliedig ar gefnogaeth, craffu, cadarnhad ac atebolrwydd
- diwylliant o ddysgu gydol oes a datblygiad yn y weinidogaeth
- myfyrdod ar arferion gweinidogol
- gosod amcanion heriol, ond cyraeddadwy
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y manylion isod, cysylltwch â’r Parchedig Ganon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygiad Gweinidogaeth.
Llyfryn a FFurflenni ar gyfer MDR Esgobion
Mae’r Ffurflen Adolygu wedi’i rhannu’n 4 Rhan
Rhan 1
Mae’r Rhan hon yn cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin y mae angen i bob gweinidog o fewn yr Eglwys yng Nghymru eu hateb, o dan y penawdau a ganlyn:
- Bywyd gweddïo
- Ymgysylltiad â’r Ysgrythur, astudiaethau, a dysgu
- Lles a llesiant
- Diogelu
- Galwedigaeth yn yr Eglwys
Ceir rhagor o gwestiynau sy’n berthnasol i gweledigaeth, strategaeth a chyd-destun unigol yr esgob o dan y pennawd a ganlyn:
- Gweinidogaeth yn yr Eglwys
Rhan 2
Dylai’r esgob a’r adolygydd gytuno ar grynodeb o’r sgwrs a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Adolygu o gwmpas pob cyfres o gwestiynau a’u cofnodi yn Rhan 2.
Rhan 3
Dylid cofnodi unrhyw nodau neu amcanion y cytunir arnynt ar gyfer y dyfodol yn Rhan 3.
Rhan 4
Dylai'r esgob a'r adolygydd lofnodi a nodi’r dyddiad yn Adran 4 o'r ffurflen adolygu (a chwblhau unrhyw faterion sy’n destun anghytundeb, os yw hynny’n wir) cyn i'r cyfarfod ddod i ben. Dylai'r adolygydd roi copi o'r ffurflen adolygu wedi'i chwblhau i'r esgob adeg y cyfarfod neu, os nad yw hynny’n bosibl, ddim llai nag wythnos yn ddiweddarach. Dylai hyn fod mewn fformat electronig (trwy e-bost).
Bydd copi o Adrannau 2, 3 a 4 o'r ffurflen adolygu yn cael ei roi ar ffeil bersonol yr esgob sy'n cael ei chadw yng Nghofrestr yr Archesgob yn Sgwâr Callaghan. Nid yw adran 1 fel arfer yn cael ei chadw heb ganiatâd penodol y sawl sy’n cael ei adolygu.
Y Broses MDR
Cam 1 Gosod dyddiad ar gyfer y cyfarfod adolygu
Cyfrifoldeb yr esgob yw rhoi cychwyn ar ei ADdW. Ar ôl bod trwy'r broses o ddewis adolygydd addas, bydd yr esgob a'r adolygydd yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer yr adolygiad. Os na all yr adolygiad ddigwydd yn y cnawd, cynhelir yr adolygiad ar-lein.
Cam 2 Safbwyntiau 360 gradd
Chwe wythnos cyn cynnal y cyfarfod adolygu, bydd yr esgob yn dewis tri unigolyn sydd â gwybodaeth uniongyrchol am ei weinidogaeth. Ar ôl cytuno â'r adolygydd ar y rhai a ddewiswyd, dylai'r esgob lenwi'r ffurflen yn atodiad 2, gan fanylu ar y rhesymau dros ddewis ei adolygydd a'r rhai sy'n darparu adborth 360. Dylid e-bostio'r ffurflen hon at yr adolygydd a'r cyfarwyddwr datblygu gweinidogaeth.
Yna bydd yr adolygydd yn e-bostio'r rhai sydd wedi eu dewis i roi adborth 360 ac yn gofyn iddynt lenwi'r ffurflen 360 (gweler atodiad 3) a'i dychwelyd iddynt o leiaf 10 diwrnod cyn y cyfarfod adolygu. Ar ôl eu dychwelyd, bydd y ffurflenni a gwblhawyd yn cael eu coladu gan yr adolygydd a'u hanfon ymlaen at yr esgob, fel y gellir myfyrio arnynt wrth baratoi at y cyfarfod.
Cam 3 Paratoi at y cyfarfod adolygu
Fis cyn y cyfarfod adolygu, dylai'r esgob fyfyrio ar y cwestiynau yn Adran 1 o'r ffurflen ADdW (gweler atodiad 4) gan ysgrifennu nodiadau yn y lle priodol.
Dylid e-bostio'r ffurflen adolygu, gydag atebion i Adran 1 wedi'u cwblhau, at yr adolygydd o leiaf 10 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod, er mwyn caniatáu digon o amser i'r adolygydd baratoi. Ynghyd â'r ffurflen adolygu wedi'i chwblhau, dylai'r esgob ddarparu dogfen un neu ddwy dudalen sy'n amlinellu'r weledigaeth esgobaethol.
Cam 4 Yn y cyfarfod adolygu
Ceir crynodeb byr o'r cyfarfod adolygu yn Adran 2, gyda'r esgob a'r adolygydd wedi cytuno ar yr hyn y dylid ei gofnodi. Nid oes angen i'r crynodeb hwn ymdrin â phob pwnc sydd wedi'i drafod, ond dylai fod yn adlewyrchiad cywir o'r sgwrs.
Fel rheol bydd cyfarfod adolygu yn para tua 2 awr.
Dylai unrhyw nodau neu amcanion penodol a gytunwyd gael eu nodi yn Adran 3, a dylai'r esgob a'r adolygydd lofnodi a nodi’r dyddiad yn Adran 4 o'r ffurflen adolygu (a chwblhau unrhyw faterion sy’n destun anghytundeb, os yw hynny’n wir) cyn i'r cyfarfod ddod i ben. Dylai'r adolygydd roi copi o'r ffurflen adolygu wedi'i chwblhau i'r esgob adeg y cyfarfod neu, os nad yw hynny’n bosibl, ddim llai nag wythnos yn ddiweddarach. Dylai hyn fod mewn fformat electronig (trwy e-bost).
Cam 5 Yn dilyn y cyfarfod adolygu
Bydd copi o Adrannau 2, 3 a 4 o'r ffurflen adolygu yn cael ei roi ar ffeil bersonol yr esgob sy'n cael ei chadw yng Nghofrestr yr Archesgob yn Sgwâr Callaghan. Nid yw adran 1 fel arfer yn cael ei chadw heb ganiatâd penodol y sawl sy’n cael ei adolygu.
Hyfforddiant ar gyfer Adolygwyr
Mae’r adolygwyr yn chwarae rhan allweddol yn y broses adolygu. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl adolygwyr posibl y sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Mae’r gyfres ganlynol o sesiynau tiwtorial ar gael i helpu’r adolygwyr a rhoi’r sgiliau iddynt ymgymryd â’r dasg, a gellir cael mynediad atynt ar unrhyw adeg.
Yn ystod y sesiynau tiwtora canlynol, defnyddir y term ‘offeiriad’ neu ‘glerig’ mewn ambell i le yn hytrach na ‘esgob’. Mae cynnwys y fideos yr un mor berthnasol i adolygwyr sy’n cael eu hyfforddi i adolygu esgobion. Sylwer bod y tiwtorialau hyn yn ymwneud â’r broses MDR yn gyffredinol yng Nghymru. Felly, byddant yn ddefnyddiol i chi, ond ar gyfer manylion penodol y broses ar gyfer yr esgobion Cymru, rhowch flaenoriaeth i’r wybodaeth yn y llyfryn MDR ar gyfer Esgobion.
Fideos Hyfforddiant
Byddwch yn gweld 7 fideo hyfforddi isod, wedi'i cynllunio i er mwyn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y sgwrs adolygu.
1.Sut i lunio adolygiad gwych ar y cyd (32 mun)
Beth ydym ni'n gobeithio ei gyflaawni o'r drafodaeth?
2.Beth sy’n gwneud cwestiwn gwych? (5 mun)
Sut i ofyn cwestiynau yn fedrus? A beth ydyn ni'n ei wneud â'r atebion?
3. Cadw’r esgobaeth a’r Deyrnas yn yr ystafell. (4 mun)
Dod â'r gymuned, yr esgobaeth a’r Deyrnas at ei gilydd yn eich sgwrs.
4. Sgyrsiau Bugeiliol ac Adolygiad. ( 7 mun)
Beth os oes mater bugeiliol yn codi?
5. Graslonrwydd a Gwirionedd. (5 mun)
Sicrhau fod her yn dod law yn llaw â Graslonrwydd.
6. Gwrando mewn ffordd wahanol. (7 mun)
Gwrando mewn ffordd sy’n golygu cael mewnwelediad Newydd
7. Cytuno ar nodau a bwriadau (6 munud)
Cytuno ar nodau cyraeddiadwy â'r unigolyn sy'n cael eu hadolygu.