
Mae Adolygiad Datblygiad Gweinidogion (MDR) yn gynllun cenedlaethol ar gyfer clerigion a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrio ar weinidogaeth, dathlu llwyddiannau, trafod heriau, a nodi anghenion cymorth. Trwy sgwrs gydag adolygwr, caiff gweinidogion eu hannog i osod nodau, datblygu eu sgiliau, ac adnewyddu eu hymrwymiad i weddi, dysgu a gwasanaeth.
Ffurflen Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion
Mae ffurflen benodol ar gael sy’n cyflwyno’r fframwaith ar gyfer y broses adolygu gweinidogion. Mae’r ffurflen yn cynnwys tudalen flaen sy’n cynnwys enw’r gweinidog a’r cyd-destun gweinidogol, ynghyd ag enw a theitl yr adolygydd a dyddiad y Cyfarfod Adolygu. Dyluniwyd y cynllun cyfan i fod yn electronig yn bennaf, gyda chanllawiau i helpu i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau o fewn amserlen benodol.
Defnyddiwch y ffurflen MDR sy'n berthnasol i'ch gweinidogaeth chi.
I weinidogion LLM / Darllenwyr sy’n cwblhau’r ffurflen am y tro CYNTAF defnyddiwch y ffurflen yma:
Yn ddelfrydol, dylai’r esgobaeth wneud y cysylltiad cychwynnol â’r gweinidog cyn i’r broses ffurfiol ddechrau a thrafod eu hadolygydd arfaethedig gydag ef/gyda hi. Os yw’r gweinidog yn anhapus gyda’r adolygydd a awgrymir, dylai gysylltu â Swyddfa’r Esgob. Fel arall, dylai’r gweinidog a’r adolygydd gytuno rhyngddynt ar ddyddiad y Cyfarfod Adolygu. Yn dilyn hynny, bydd hyn yn cael ei gofnodi ar Ffurflen Adolygu, y gellir ei hanfon wedyn at y gweinidog a bydd y broses wedi dechrau.
Mae’r Ffurflen Adolygu wedi’i rhannu’n 4 Rhan.
Rhan 1
Mae’r Rhan hon yn cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin y mae angen i bob gweinidog o fewn yr Eglwys yng Nghymru eu hateb, o dan y penawdau a ganlyn:
- Bywyd gweddïo
- Ymgysylltiad â’r Ysgrythur, astudiaethau, a dysgu
- Lles a llesiant
- Diogelu
- Galwedigaeth yn yr Eglwys
Ceir rhagor o gwestiynau sy’n cael eu gosod gan esgobaeth y gweinidog sy’n berthnasol i’w gweledigaeth, ei strategaeth a’i chyd-destun unigol o dan y pennawd a ganlyn:
- Gweinidogaeth yn yr Eglwys
Rhan 2
Dylai’r gweinidog a’r adolygydd gytuno ar grynodeb o’r sgwrs a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Adolygu o gwmpas pob cyfres o gwestiynau a’u cofnodi yn Rhan 2.
Rhan 3
Dylid cofnodi unrhyw nodau neu amcanion y cytunir arnynt ar gyfer y dyfodol yn Rhan 3.
Rhan 4
Dylai’r adolygydd a’r gweinidog lofnodi a dyddio’r ffurflen, os oes modd cyn i’r Cyfarfod Adolygu ddod i ben. Gellir gwneud hyn yn electronig.
Dylid darparu copi wedi’i gwblhau o’r Ffurflen Adolygu i’r gweinidog yn ystod y cyfarfod neu, os nad yw hynny’n bosibl, dim llai nag 1 wythnos yn ddiweddarach. Dylai hyn fod mewn fformat electronig (drwy e-bost) oni bai bod y gweinidog yn gofyn yn benodol am gopi papur.
Bydd copi o Rannau 2, 3 a 4 o’r Ffurflen Adolygu yn cael eu gosod ar ffeil bersonol y gweinidog a gedwir gan Swyddfa’r Esgob. Os bydd esgobaeth yn dymuno cynnwys copi o nodiadau a myfyrdodau’r gweinidog a wneir yn Rhan 1, rhaid iddi ofyn am ganiatâd y gweinidog yn gyntaf cyn gwneud hynny. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y sgyrsiau mor onest a thryloyw â phosibl.
Y Broses Adolygu Datblygiad Gweinidogion
Cam 1 Paratoi ar gyfer Cyfarfod Adolygu
Dylid darparu’r Ffurflen Adolygu i’r gweinidog fis cyn y mae disgwyl i’r Cyfarfod Adolygu gael ei gynnal. Ar y pwynt hwnnw, dylid cynghori’r gweinidog pwy yw’r adolygydd a enwebwyd ar gyfer y broses. Os yw gweinidog yn anhapus gyda’r adolygydd a ddynodwyd, dylai gysylltu â Swyddfa eu Hesgob.
Anogir y gweinidog i fyfyrio ar y cwestiynau yn Rhan 1, ac i ysgrifennu nodiadau yn y mannau a ddarparwyd ar gyfer hynny.
Yna, dylid anfon y Ffurflen Adolygu, gyda’r atebion i Ran 1 wedi’u cwblhau, at yr adolygydd dim llai na 10 diwrnod cyn dyddiad y Cyfarfod Adolygu er mwyn rhoi digon o amser i’r adolygydd baratoi.
Cam 2 Yn y Cyfarfod Adolygu
Bydd y Cyfarfod Adolygu ei hun yn cael ei gynnal gan ddefnyddio nodiadau a myfyrdodau’r gweinidog yn Rhan 1 fel fframwaith ar gyfer y drafodaeth. Bydd hyd y cyfarfod yn amrywio, ond, fel canllaw, dylai barhau am oddeutu 1 ½ i 2 awr.
Dylid rhoi crynodeb byr o’r Cyfarfod Adolygu yn Rhan 2, gyda’r gweinidog a’r adolygydd yn cytuno ar sut y dylid ei gofnodi. Nid oes rhaid iddo gynnwys pob pwnc trafod, ond dylai fod yn adlewyrchiad cywir o’r sgwrs.
Dylid nodi unrhyw nodau neu amcanion penodol y cytunir arnynt yn Rhan 3, a dylai’r gweinidog a’r adolygydd lofnodi a dyddio Rhan 4 cyn i’r cyfarfod ddod i ben. Gellir gwneud hyn yn electronig.
Dylid darparu copi wedi’i gwblhau o’r Ffurflen Adolygu i’r gweinidog yn ystod y cyfarfod neu, os nad yw hynny’n bosibl, nid llai nag 1 wythnos yn ddiweddarach. Dylai hyn fod mewn fformat electronig (drwy e-bost) oni bai bod y gweinidog yn gofyn yn benodol am gopi papur.
Cam 3 Yn dilyn y Cyfarfod Adolygu
Bydd copi o Rannau 2, 3 a 4 o’r Ffurflen Adolygu yn cael eu gosod ar ffeil bersonol y gweinidog a gedwir gan Swyddfa’r Esgob. Os bydd esgobaeth yn dymuno cynnwys copi o nodiadau a myfyrdodau’r gweinidog a wneir yn Rhan 1, rhaid iddi ofyn am ganiatâd gan y gweinidog yn gyntaf cyn gwneud hynny. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y sgyrsiau mor onest a thryloyw â phosibl.
Monitro’r Cynllun Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion
Er bod y gwaith o weinyddu’r cynllun yn gyfrifoldeb i bob esgobaeth unigol, mae Athrofa Padarn yn gyfrifol am fonitro a nodi unrhyw batrymau hyfforddi cyffredinol sy’n dod i’r amlwg.
Bydd pob esgobaeth yn anfon canlyniadau bob chwarter at Athrofa Padarn.
Dylid gwneud hyn yn electronig gan ddefnyddio ffurflen benodol sydd ar gael i’w lawrlwytho yma:
Hyfforddiant ar gyfer Adolygwyr
Mae’r adolygwyr yn chwarae rhan allweddol yn y broses adolygu. Dylai’r esgobaethau wneud y cysylltiad cychwynnol â’r gweinidog i’w cynghori ynghylch enw’r adolygydd a fydd yn eu harwain drwy’r broses.
Os yw’r gweinidog yn anhapus gyda’r adolygydd a awgrymir am unrhyw reswm, dylai gysylltu â Swyddfa’r Esgob. Fel arall, bydd dyddiad y Cyfarfod Adolygu yn cael ei gytuno, a gall y broses ddechrau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl adolygwyr posibl y sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Mae’r gyfres ganlynol o sesiynau tiwtorial ar gael i helpu’r adolygwyr a rhoi’r sgiliau iddynt ymgymryd â’r dasg, a gellir cael mynediad atynt ar unrhyw adeg
Yn ystod y sesiynau tiwtora canlynol, defnyddir y term ‘offeiriad’ neu ‘glerig’ mewn ambell i le yn hytrach na’r term cynhwysol sef ‘gweinidog’. Cafodd y fideos hyn eu cynhyrchu pan mai dim ond clerigion oedd yn cael eu hadolygu. Cofiwch serch hyn, y bydd pob Gweinidog yn lleyg ac ordeiniedig yn cael eu cynnwys fel rhan o’r Cynllun Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion ( MDR Scheme) o’r 1 Ionawr2025. Mae cynnwys y fideo yn berthnasol os ydych yn hyfforddi i wneud adolygiadau o glerigion neu Weinidogion Lleyg / Darllenwyr.
Fideos Hyfforddiant
Mae yna 7 fideo hyfforddiant, wedi eu cynllunio er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer y sgwrs adolygu.