Diwinyddiaeth Ar Gyfer Bywyd
Gwybodaeth
- Hoffech chi ddysgu mwy am Dduw, y Beibl a Diwinyddiaeth?
- Hoffech chi ddysgu mwy am ffydd, datblygu eich gwybodaeth diwinyddol mewn awyrgylch cefnogol ac astudio â bobl tebyg I chi?
Os hynny, mae Diwiyddiaeth ar gyfer Bywyd yn berffaith i chi. Mae Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yn gwrs ar-lein rhan-amser. Gallwch astudio tuag at radd, diploma neu dystysgrif a gall y cwrs eich cynorthwyo chi I gysylltu eich ffydd gyda bywyd bob dydd. Mae’n gwrs prifysgol achrededig, wedi ei ddilysu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Byddwch yn trafod y cwestiynau isod:
- Pam fo Duw yn caniatáu dioddef?
- Beth mae’r gerddoriaeth rydyn ni’n gwrando iddo a’r ffilmau ni’n gwylio yn dweud wrthyn ni am Dduw?
- Beth yw hanes ac ystyr ein gwasanaethau addoli?
- Beth yw ystyr geiriau fel iachawdwriaeth, pechod a cymodi a sut ydyn nhw’n berthnasol i fy ffydd?
- Sut allaf gwneud penderfyniadau moesegol a sut ddylwn feddwl am faterion moesegol fel marwolaeth â chymorth, rhywioldeb, hawliau dynol a’r economi?
- Sut ddylwn i ddarllen a deall y Beibl ar gyfer heddiw a fy mywyd i?
- Sut alla i helpu fy eglwys i fod yn fwy effeithiol wrth genhadu?
Pa gymwysterau gallaf ennill?
Pob blwyddyn byddwch yn astudio tair modiwl- byddwch yn ennill cymwyster yn dilyn cwnlhau 6 modiwl.
Astudiwch yn rhan amser am 2 flynedd – gallwch ennill Tystysgrif mewn Diwinyddiaeth
Astudiwch yn rhan amser am 4 blynedd gallwch ennill diploma
Astudiwch am 6 blynedd yn rhan-amser a gallwch ennill gradd BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth.
Sut gyflwynir y cwrs?
- Bydd pob modiwl yn dechrau â sesiwn rhagarweiniol ar-lein wedi ei gyflwyno gan un o’n tiwtoriaid academaidd.
- Bydd lefelau 4 a 5 yn cwrdd mewn grŵp ar-lein ar noson yn ystod yr wythnos o’ch dewis chi. Caiff y sesiynau eu harwain gan un o’n hwyluswyr. Bydd Lefel 6 yn cwrdd ar-lein gyda’r carfan rhan-amser ar nosweithiau Fawrth ac fe gaiff sesiynau eu cyflwyno gan diwtor y modiwl. Drwy gydol y rhaglen, ar bob lefel, bydd yr holl ddeunyddiau dysgu ar gael drwy Moodle
- Yn ystod y tymor byddwch chi hefyd yn cwrdd ar-lein ar gyfer seminar canol-tymor gyda thiwtor y modiwl
- Ar ddiwedd y modiwl, byddwch yn cael eich asesu ar eich dysgu. Rydym ni’n asesu dysgwyr drwy amrywiaeth o ffyrdd ( cyfnodolion dysgu, aseiniadau, cyflwyniadau, adroddiadau a myfyrdodau) ac mi fyddwch yn cael eich cefnogi gan eich tiwtor modiwl i gwblhau eich asesiad.
Enghraifft o fodiwlau posib
Lefel 4 | Lefel 5 | Lefel 6 |
---|---|---|
Cyflwyno Addoliad Anglicanaidd | Archwilio Dehongliad Beiblaidd | Ymgysylltu Cristoleg o’r Testament Newydd I’r Credoau |
Cyflwyno Cenhadaeth Cristnogol | Archwilio Athrawiaeth Gristnogol | Ymgysylltu Diwinyddieth y Sacramentau a Chenhadaeth |
Cyflwyno Diwinyddiaeth Ymarferol | Archwilio Eglwys Cenhadol | Ymgysylltu Ymchwil a Diwinyddiaeth |
Cyflwyno Athrawiaeth Gristnogol |
Archwilio Cristnogaeth Cymru mewn cyd-destun Gorffennol, Presennol a’r dyfodol. |
Ymgysylltu Diwinyddiaeth a Diwylliant GYfoes |
Cyflwyno’r Hen Destament | Archwilio Darlleniad Ganonaidd o’r Ysgrythur | Ymgysylltu gyda Cenhadaeth Fyd-eang |
Cyflwyno’r Testament Newydd | Archwilio Moeseg Gristnogol | Ymgysyltu Diwinyddiaeth, Eglwys,a Hunaniaeth yn y Gymru datganoledig |
Cwestiynau Cyffredin
FFioedd
Lefel | Dysgwyr yr Eglwys yng Nghymru (Yn flynyddol) | Dysgwyr tu allan i'r Eglwys yng Nghymru (Yn flynyddol) |
---|---|---|
4 | £153.00 | £381.00 |
5 | £381.00 | £1144.00 |
6 | £381.00 | £1144.00 |
Fe anfonebir ffioedd y cwrs gan y Corff Cynrychiolwyr ac fe ellir creu cynllun talu i er mwyn gwasgaru'r gost. Os ydy talu yn broblem, rhowch gwybod i'ch tiwtor ac mae'n bosib allwn ni eich helpu.
Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/
Ymrestru
I weld cytundeb ymrestru myfyriwr Prifysgol y Drindod Dewi Sant cliciwch yma
Mae astudiaethau diwinyddol wedi ei hachredu yn ofyniad ar gyfer rhan fwyaf o weinidogaethau trwyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Dyma rhai gyrfaoedd eraill gallai fod yn agored i chi gyda gradd diwinyddiaeth:
Caplan
Darlithydd Addysg Uwch
Athro / Athrawes Ysgol Gynradd
Athro / Athrawes Ysgol Uwchradd
Mae'n bosib y bydd angen cymwysterau pellach ar gyfer rhai o'r uchod.
Mae'n bosib y gall graddedigion Diwinyddiaeth fynd ymlaen i wneud amrywiaeth o yrfaoedd megis yr heddlu, gwaith gweinyddol yn y sector gyhoeddus neu preifat, adnoddau dynol, manwerthu neu rheolaeth gwestai.
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau lefel 4 yn ennill Tystystgrif mewn Diwnyddiaeth a Disgyblaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau lefel 5 yn ennill Diploma a chwblhau lefel 6 yn ennill gradd BTh.
Trafodwch gyda ni mor gynnar yn y broses a phosib os ydych wedi astudio Diwinyddiaeth yn academaidd yn flaenorol, gan ei fod yn bosib y fedrwch ddechrau'r cwrs ar lefel Diploma.
Ffioedd y cwrs ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2020/2021 yw £120 y flwyddyn. Ceir anfoneb gan y Corff Cynrychiolwyr am gostau'r cwrs. Gellir gwneud trefniadau am gynllun talu i wasgaru'r gost.
Cyfnod Ymsefydlu ar y Cwrs
Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnig y cyfle i ddarpar myfyrwyr i gymryd rhan mewn cwrs sefydlu i gyfwyno themâu allweddol, syniadau a ffyrdd o ddysgu mewn amgylchedd anffurfiol a chefnogol.