English

Mae Athrofa Padarn Sant wedi ei hachredu i gynorthwyo myfyrwyr sydd yn edrych i Gofrestru gyda Bwrdd Caplaniaeth Iechyd y D.U. yn ogystal â’r cymwysterau isod:

  • Tystysgrif Ôl-radd (PG Cert) 3 modiwl, drwy astudio mewn 1 Blwyddyn *
  • Diploma Ôl-radd (PG Dip) 6 modiwl mewn 2 flynedd
  • MA (6 modiwl a thraethawd hir 15,000 o eiriau), 3 mlynedd

* Bydd angen i myfyrwyr sy'n dymuno parhau i astudio'r diploma neu'r MA astudio 'Ymchwil a Myfyrio: Adnoddau a Dulliau' fel ei modiwl cyntaf yn yr ail flwyddyn*.

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau iechyd ar darws y D.U. ac yn falch iawn ein bod wedi ennill cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 1999.

Rydym hefyd yn cynnig llwybr penodol ar gyfer yfyrwyr sy'n dymuno astudio PGCert gyda Chofrestriad UKBHC. Bydd myfyrwyr sy'n gwneud cynnnydd boddhaol â'r opsiwn i drosgwlyddo i astudio y PG Dip neu'r MA.

Mae'r tystysgrif ôl-radd mewn Astudaiethau Caplaniaeth gyda chofrestriad UKBHC yn canolbwyntio ar baratoi caplaniaid newydd eu apwyntio i weithio fel ymarfer diogel ac efefithiol, boed yn gweithio i'r Wasanaeth Iechyd, neu i ddarparwyr preifat neu elusennol.

Bydd ein rhaglen yn rhoi'r gwybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi fod yn hyddysg mewn caplaniaeth gofal iechyd. Bydd astudio ym Mhadarn Sant yn ehangu eich meddwl a'ch ymwybyddiaeth o elfennau damcaniaethol ac ymarferol eich gwaith.

O gofio’n 23 mlynedd o brofiad o baratoi caplaniaid o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mae digon o resymau da dros ymuno â ni yn Athrofa Padarn Sant.

Sut gyflwynir y cwrs a mynychu

Mae cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal o Ddydd LLun i Ddydd Mercher ar ein safle yng Nghaerdydd lle gallwch fwynhau ystafelloedd dysgu pwrpasol a llyfrgell gynhwysfawr.

Mae ein myfyrwyr yn sôn yn gyson eu bod yn cael budd mawr o elfen preswyl ein rhaglenni.Mae ein ystfalloedd en-suite yn fodern ac wedi eu hadeiladu yn bwrapsol.

Ceir tri elfen i'r astudiaethau ar gyfer y tystystgrif ôl-raddedig a dylid disgwyl cyflawni 200 awr i bob modiwl:

  • dysgu yn y dosbarth, paratoi ar gyfer asesiadau ac astudiaethau cyffredinol am y pwnc
  • yr asesiad, gan gynnwys yr holl ddarllen penodol am y pwnc a paharatoi deunyddiau asesu
  • amser i chi i baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau

Bydd yr amser sydd ei hangen i gwblhau yr elfen UKBHC o'r rhaglen yn amrywio yn ddibynnol ar brofiad blaenorol, ond rhaid iddo gael ei gyfalwni o fewn 18 mis o ddechrau'r gwaith. Cysylltwch â ni os hoffech fanylion pellach. Cewch fwy o fanylion defnyddiol Cofrestru - UKBHC.

Modiwlau
  • Caplaniaeth a Chenhadaeth Gristnogol: Sut galla i rhannu fy ffydd?
  • Materion Moesol ym maes Caplaniaeth: Sut ydym ni'n gwneud y penderfyniadau cymhleth?
  • Ymarfer Myfyriol: Lleoliad *

Caplaniaeth a Chenhadaeth Gristnogol

Nid mater syml bob amser yw gwneud synnwyr o'n perthynas â'r eglwys sy’n ein hanfon (neu’n cymuned ffydd arall) a'n rôl mewn caplaniaeth. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle ichi ddyfnhau’ch dealltwriaeth o wreiddiau hanesyddol caplaniaeth, a'i pherthynas â diwinyddiaeth a diwylliant. Bydd yn eich helpu i fyfyrio'n feirniadol ar eich rôl.

Materion moesol ym maes Caplaniaeth / Caplaniaeth mewn cyd-destun

Byddwn yn cynnig Caplaniaeth mewn cyd-destun o 2025. Bydd y mosiwlau hyn yn cael eu cynnig am yn ail flwyddyn. Mae'n bosib y byddwch eisiau gwirio pa fodiwl sy'n cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn rydych chi'n astudio.

Bydd myfyrwyr sy'n dymuno astudio Tystysgrif Ôl-radd yn medru dewis gwneud Modiwl Ymarfer Myfyriol yn lle'r Modiwl Ymchwil a Myfyrio. A chithau’n gaplan, rydych yn treulio llawer o'ch diwrnod yn gwneud penderfyniadau anodd. Bydd hyfforddiant ôl-raddedig mewn moeseg yn miniogi’ch gwaith meddwl, yn rhoi hwb i'ch hyder, ac yn eich galluogi i ddeall safbwyntiau’ch cydweithwyr. Mae'r modiwl hwn yn archwilio ffynonellau syniadau moesegol a dulliau moesegol. Cewch gyfle i ymchwilio i fater yng nghyd-destun eich sefydliad, eich ffydd a’ch cymdeithas chi.

Ymarfer Myfyriol

Drwy myfyrio ar ein cyd-destun proffesiynol a bod yn hunan ymwybodol mae'n sicrhau ein bod yn ymarferydd
diogel ac effeithiol. Mae myfyrio ar ein lleolaid gwaith yn ein galluogi ni i weld posibiliadau newydd a datblygu fel arweinydd.

* Bydd myfyrwyr sy'n dymuno parhau i astudio tuag at ddiploma neu MA ar ôl y flwyddyn gyntaf yn gorfod astudio modiwl Ymchwil a Myfyrio: Dulliau ac Adnoddau* yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yna modiwl Ymarfer Myfyriol yn yr ail flwyddyn.

Asesiad

Asesir eich dysgu drwy ddulliau amrywiol. Nod rhain yw eich galluogi chi i fod yn effeithiol yn y gweithle a'ch paratoi chi ar gyfer astudiaethau academaidd pellach. Mae'n cynnwys aseiniadau, paratoi adnoddau er gyfer eraill a rhoi tystiolaeth o fyfyrio diwinyddol

Cymorth i fyfyrwyr

Mae cefnogi dysgwyr wrth wraidd ein hymarfer, o’r cyswllt cyntaf tan raddio. Mae ein tîm cyfeillgar ar ddiwedd y ffôn, neges e-bost ac eisiau eich bod yn llwyddo yn academaidd, ond hefyd ffynnu yn ystod eich cyfnod gyda ni. Mae ein tîm Cymorth Dysgu wrthlaw i gynghori myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Ffioedd

Y ffi ychwanegol ( yn ychwanegol i ffioedd dysgu ar gyfer astudiaethau Ôl-raddedig) i wneud y cofrestriad UKBHC yw £350

Staff

Mae'n tim tiwtoriaid yn cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr uwch ac academyddion wedi eu dewis yn briodol. Gweler Staff Tiwtora a’r Tim Gweithredol yma Staff Tiwtora, Tiwtoriaid Cysylltiol Tim Gweithredol

Dominic Whitting - Caplan Iechyd
Caroline John - Caplan Gofal Iechyd
Sarah Burke - Caplan Gofal Iechyd Addysg
Lucyann Ashdown - Caplan Gofal Iechyd
Ffioedd

I fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2026/27 ffioedd y cwrs fydd £3841:

Ein ffi ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer cofrestriad UKBHC yw £350.

Bydd costau llety yn cael eu codi ar wahân i hyn ac yn £180 ar gyfer pob cyfnod preswyl.

Dyddiadau Cyfnodau Preswyl

2024/2025

7-9 Hydref 2024

20-22 Ionawr 2025

17-19 Mawrth 2025

2-4 Mehefin 2025

Gofynion a Phroses Ymgeisio

Y criteria arferol ar gyfer ymgeisio ydy gradd 2:1 gyda o leiaf 2 flynedd o brofiad o gaplaniaeth neu radd 2:2 ac â phrofiad broffesiynol sylweddol. Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion cysylltwch â ni i drafod beth yw eich opsiynau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd Gorffennaf.

Gwybodaeth pellach

Gallwch lawr lwytho pamffled Astudiaethau Caplaniaeth Ôl-radd gyda Chofrestriad UKBHC

Gweler mwy o wybodaeth am Astudiaethau Ôl-radd fan hyn

Gweler fwy o wybodaeth am bolisiau Athrofa Padarn Sant yma

Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio cysylltwch:

Tina Franklin

Cydlynydd Ôl-radd
tina.franklin@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 838009