yr Athro Norman Doe CB, LLD, FBA

Daw Norman Doe CB, LLD, FBA, o’r Rhondda. Fe astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg Magdalen, Caergrawnt a Choleg Mansfield Rhydychen. Mae ganddo raddau LLB, LLM (Cymru), Doethuriaeth (Caergrawnt) DCL ( Lambeth MTh Rhydychen, LLD o Gaergrawnt a Bargyfreithwyr Middle temple. Mae’n Athro’r Gyfraith I’r Ysgol Gyfraith m mhrifysgol Caerdydd, yn Gyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, yn Feistr y fainci Inner Temple Llundain, yn Ganghellor Esgobaeth Bangor ac yn Gymrawd I’r Academi Brydeinig.
Mae’n awdur o 10 o lyfrau ar Gyfraith eglwysig ac wedi golygu 20 o lyfrau ac wedi ysgrifennu tua 200 p benodau mewn llyfrau ac ysgrifennu erthyglau cyfnodolion. Ei lyfr ‘Canon Law in the Anglican Communion’ (Rhydychen, 1998) oedd sail ‘The Principles of Canon Law Common to the Churches of the Anglican Communion (Anglican Communion Legal Advisers Network 2008, adolygwyd yn 2022). Ei lyfr ‘Christian Law (Caergrawnt, 2013) oedd y sail ar gyfer ‘Statement of Principles of Christian Law’ a gyhoeddwyd gan y Panel Cyfraith Gristnogol eciwmenaidd ac fe’ lansiwyd yng Nghynulliad Cyngor y Byd o Eglwysi yn 2022. Cam Un o'i adroddiad ar System Gydadrannol yr Eglwys yng Nghymru ei dderbyn drwy bleidlais yng Nghorff Llywodraethu'r Eglwys yng Nghymru ym mis Medi 2024. Derbyniwyd Cam Un o'i adroddiad ar System Gydadrannol yr Eglwys yng Nghymru, drwy bleidlais gyda Chorff Llywodraethu'r Eglwys yng Nghymru ym mis Medi 2024. Mae ei ddrama gymunedol, Thrice to Rome (2023), ar wrandawiadau Gerallt Gymro (m. 1223) yn The Papal Court of Innocent III ( asegw), wedi'i berfformio yng Nghadeirlan Tyddewi, Temple Church Llundain, Caergaint, Rhifain (Supreme Tribunal of the Pope), ac yn Cornerstone, Caerdydd.
Mae wedi bod yn aelod o'r Comisiwn Cynghori Cyfreithiol ( Eglwys Lloegr), Comisiwn Lambeth, y Rhwydwaith Cynghorwyr Cyfreithiol Anglicanaidd, Cynhadledd Lambeth, a’r Grŵp Dylunio Cyfamod Anglicanaidd.
Mae ef hefyd wedi bod yn Llywydd i Gonsortiwm Ewropeaidd yr Eglwys ac Ymchwil Gwladol (2010) professeur associé ym Mhrifysgol Paris (1999-2020), yn Gymrawd gwadd / ysgolhaig yn chwe coleg yn Rhydychen. Mae’n gyfarwyddwr LLM mewn Cyfraith Eglwysig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ddarllenydd I Wobrau Addysg y Frenhines Elizabeth, yn Gymrawd Gwadd Nodedig yn Nhŷ St Stephen, Rhydychen, aelod o'r Cyngor, Cymdeithas Selden, a Chymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Hynafiaethau, a Chymdeithas Cyfraith Eglwysig (yr ail gymrawd o'r fath, y cyntaf oedd y Patriarch Eciwmenaidd Bartholemew
Yn 2016 anrhydeddwyd ef â he was honoured with a festschrift: F. Cranmer, M. Hill, C. Kenny and R. Sandberg, eds., The Confluence of Law and Religion: Interdisciplinary Reflections on the Work of Norman Doe (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2016). Ef oedd un o bump yn 2024 i gael ei wneud yn Gwnsler y Brenin am ei gyfraniad ym maes cyfraith eglwysig . Yn yr Research Handbook on Law and Religion, a olygwyd gan Rex Adhar (Elgar, 2018), fe’i rhestrwyd ef yn y deg ysgolhaig gorau yn y Gyfraith a Chrefydd yn y byd yn rhif 10.