Diweddariad Coronavirus gan yr Eglwys yng Nghymru 23.03.20
Ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog Boris Johnson yn San Steffan heno:
"Tra bod y mesur a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth heb ei debyg, ac wedi ei ardystio gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford maent wedi eu creu er iechyd a lles y bobl yn ein cymunedau a’n cenedl. Rydym yn cymell pawb i ddilyn y cyfarwyddiadau a rhoddwyd. Bydd datganiad mwy llawn a chyngor ychwanegol yn dilyn ond yn y cyfamser rydym yn gofyn i chi barhau â’ch gweddïau a’ch cariad a gofal dros aelodau bregus ein cymunedau. Er ein bod ar wahân ac yn pryderu mae rhaid i ni barhau’n gryf a chadarn wrth gyflawni'r hyn yr ofynnwyd i ni ar adeg mor dyngedfennol."