Ffurfiant mewn cymuned ar gyfer cenhadaeth

Croeso i Athrofa Padarn Sant

Braint yw arwain y gymuned egnïol hon sy'n dysgu ac yn ffynnu.

Ffurfiwyd Athrofa Padarn Sant yn 2016 i fod yn:

rhan annatod o’r Eglwys yng Nghymru a chanddi weledigaeth o ffurfiant a hyfforddiant eithriadol wedi’u seilio ar genhadu i holl bobl Duw.

Rydym yn ‘rhan annatod o’r Eglwys yng Nghymru’. Fel yr arferai un o sylfaenwyr Athrofa Padarn Sant ei ddweud, ‘Padarn Sant yw’r Eglwys yng Nghymru yn ei ffurf diwinyddol-addysgol.’ Mae ein twf, yn y ddisgyblaeth a’r gwasanaeth, yn un gydol oes ac yn rhan annatod o bwy ydym ni. Meddwl a byw mewn ffordd Gristnogol yw bywyd yr Eglwys nid rhywbeth sy’n cael ei wneud ar ei rhan nac iddi, gan sefydliadau ar wahân. Rydym yn falch o weithio gyda phobl o bob rhan o’r DU a thu hwnt ond mae ein prif ffocws ar Gymru benbaladr a’i phobl, boed yn Gymry Cymraeg neu ddi-Gymraeg.

'Ffurfiant mewn cymuned ar gyfer cenhadaeth'

Eithriadol - Mae ‘eithriadol’ yn air brawychus. Rydym yn ei ddefnyddio, nid oherwydd ein bod wedi cyflawni rhagoriaeth ond i atgoffa ein hunain bod yr her sy’n wynebu’r Eglwys yn un fawr a bod anghenion ein cymunedau’n enfawr. Nid yw Duw yn gofyn i ni fod yn gymhedrol ac yn ‘ddigynnwrf’.

Wedi'u Seilio ar Genhadu -Nid math o iaith ddiwinyddol glyfar yw ‘wedi’u seilio ar genhadu’. Dywedodd y diwinydd Emil Brunner fod ‘yr Eglwys yn bodoli drwy genhadaeth, yn union fel y mae tân yn bodoli trwy losgi’. Rydym yn credu, pan fydd yr eglwys yn edrych at i mewn, ei bod yn cael ei llesteirio gan ddadleuon. Rydym yn canfod y persbectif cywir pan fyddwn yn canolbwyntio ar genhadaeth Duw yn ei fyd ef.

Mae Athrofa Padarn Sant yn ymwneud â chymaint mwy na hyfforddi offeiriaid newydd. Ydy, mae hwnnw’n waith pwysig, ond ein galwad ni yw gwasanaethu ‘holl bobl Duw’. Dylai’r wefan hwn roi cipolwg i chi a rhoi rhyw fath o syniad o beth ydy Athrofa Padarn Sant, beth sy'n bwysig i ni a sut allwch cho o bosib fod yn ran ohono.. Efallai y bydd yn eich ysbrydoli wrth i chi ddysgu ac yn dangos sut y gallwn eich helpu chi neu efallai sut y gallwch gyfrannu at ein gwaith. Efallai y gwnewch weddïo drosom hefyd. Tri dyfyniad i gloi - gan dîm pêl droed Cymru, ‘gorau chwarae cyd chwarae!’, gan yr Eglwys yng Nghymru, ‘nawr yw’r amser!’ a chan yr Iesu ei hun "Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf anfon ei weithwyr allan i faes ei gynhaeaf.” - Y Parchedig Athro. Jeremy Duff, Pennaeth.