Hafan Amdanom ni Ein Cynnig Cymraeg

Ein Cynnig Cymraeg

Mae Athrofa Padarn Sant yn ymfalchïo yn y Gymraeg ac rydym wedi mabwysiadau’r egwyddor, y ddylsai ei gwaith o fewn Cymru drin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal. Rydym o’r gred bod cynnig gwasanaethau yn iaith dewisiol unigolion yn medru gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad yr unigolyn. Rydym eisiau annog unigolion i deimlo’n yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith. Byddwn yn cynnig gwasanaethau dwyieithog lle fo hynny’n bosib ac yn ymarferol.

Dyma uchafbwyntiau ein gwasanaethau Cymraeg:

  • Mae croeso i chi gysylltu gyda ni dros y ffôn neu’n ysgrifenedig yn Gymraeg
  • Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith
  • Mae ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
  • Gall myfyrwyr cael mynediad i adnoddau Cymraeg megis ffurflenni yn ogystal â chyflwyno aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cyflwynir rhai elfennau o’r Gymraeg yn ystod addoliad
  • Mae gan ddysgwyr a staff fynediad at gwrs Say Something in Welsh er mwyn Dysgu Cymraeg.
  • Mae gan fyfyrwyr fynediad at ysgoloriaethau / chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a staff fynediad at sesiynau Datblygiad Proffesiynol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Cynnig Cymraeg Athrofa Padarn Sant wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Gallwch weld ein Cynllun Iaith Gymraeg isod