Diweddariad Coronavirus 17.03.20
Yn dilyn cyngor newydd gan y llywodraeth, ac yn unol â’r cyfarwyddyd gan y prifysgolion rydym yn partneriaethu gyda hwy, mae Athrofa Padarn Sant wedi gwneud y penderfyniad i ohirio addysgu wyneb yn wyneb o heddiw tan yr 22 Ebrill. Bydd hyn cynnwys unrhyw weithgareddau dysgu wyneb yn wyneb megis celloedd ffurfiannol, a grwpiau Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd. Rydym yn disgwyl y bydd lleoliadau yn parhau dan y cyfarwyddyd ar gyfer eglwysi a rhoddir gan Bainc yr Esgobion, ac y bydd goruchwylwyr lleoliadau yn ei weithredu.
Bydd staff Padarn Sant yn gweithio’n galed dros yr wythnos nesaf i greu cynlluniau ar sut mae gweithgaredd dysgu yn mynd i barhau ( er enghraifft drwy dechnoleg ar-lein), effaith ar aseiniadau ac ati. Byddwn yn asesu’r sefyllfa er mwyn cynllunio fwy cadarn tu hwnt i 22 Ebrill. Byddwn mewn cysylltiad eto wrth i’r sefyllfa ddatblygu; bydd y wefan yn cael ei ddiweddaru â gwybodaeth yn rheolaidd.