
Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth Drwyddedig

Mae Athrofa Padarn Sant yn hyfforddi pobl ar gyfer amryw o fathau o weinidogaeth, amser llawn a rhan-amser, lleyg ac ordeiniedig. Bydd angen i'r ymgeiswyr gael eu noddi gan ei hesgob, ac fel arfer wedi bod drwy broses ddirnadaeth ar lefel yr esgobaeth, a’r dalaith cyn dechrau hyfforddi gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Chyfarwyddwr Galwedigaethau eich esgobaeth
Mae'r gweinidogaethau rydyn ni’n hyfforddi ymgeiswyr ar eu cyfer yn cynnwys:
- Darllenydd
- Arloeswr
- Efengylydd
- Gweinidog Ieuenctid a Phlant
- Caplan Bugeiliol
- Diacon
- Offeiriad
Rydym yn credu mewn ffurfiant integredig. Nid dysgu sgiliau yn unig yw hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ond yn hytrach datblygu fel person, mewn aeddfedrwydd ysbrydol ac emosiynol. (Dyna pam rydym yn defnyddio'r term 'ffurfiant’). Rydym yn credu hefyd fod yr hyfforddiant gorau yn 'integredig' gan fod ein holl waith dysgu, boed yn ddiwinyddiaeth academaidd, yn sgiliau gweinidogaeth neu'n dwf ysbrydol ac emosiynol, i gyd yn bwydo'i gilydd ac yn llywio'i gilydd.
Mae'r hyfforddiant fel arfer yn para am ddwy neu dair blynedd, yn amser llawn neu'n rhan-amser. Mae’r ymgeiswyr rhan-amser yn gweithio gartref ac mae eu gwaith dysgu diwinyddol a'u gwaith ar leoliad yn digwydd yn lleol. Mae’r ymgeiswyr amser llawn yn dod i Athrofa Padarn Sant ar raglen o ddydd Mercher i ddydd Gwener ac yn gwneud gwaith yn eu lleoliad dau ddiwrnod yr wythnos, naill ai yn ardal Caerdydd neu yn ardal eu cartref, a all fod yn unrhyw rhan o Gymru.
Dyma bedwar bloc adeiladu ein hyfforddiant
Cyfnodau Preswyl
Mae dysgu sut i weithio'n dda mewn grwpiau, gyda phobl eraill, yn hanfodol ar gyfer gweinidogaeth. Mae’r ymgeiswyr amser llawn yn byw mewn cymuned o ddydd Mercher i ddydd Gwener am 30 wythnos o’r flwyddyn yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd. Mae pob ymgeisydd yn dod i bedwar sesiwn preswyl y flwyddyn, sydd fel arfer yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, sef ysgol haf am wythnos a thri phenwythnos y flwyddyn. Mae gan bob un o’r rhain thema ddiwinyddol benodol ac mae’r ymgeiswyr yn cwrdd mewn 'meysydd gweinidogaeth' i godi sgiliau a gwybodaeth ddamcaniaethol bwysig am y gwahanol weinidogaethau y maen nhw’n paratoi ar eu cyfer.

Dysgu diwinyddol

Mae pawb yn dilyn cwrs mewn diwinyddiaeth. Mae'r mwyafrif o bobl yn astudio ar ein rhaglen BTh (gradd) sydd wedi’i dilysu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yr enw anffurfiol ar y cwrs hwn yw 'Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd’ ac mae'n bosibl gadael gyda thystysgrif neu ddiploma. Bydd llawer yn dilyn y cwrs hwn yn eu hesgobaeth cyn dechrau hyfforddi ac mae'n ffordd wych i baratoi ar gyfer y broses dirnadaeth a dod i arfer ag astudio diwinyddiaeth. Mwyaf i gyd o gredydau y mae’r ymgeiswyr yn eu sicrhau cyn hyfforddi, pellaf i gyd y gallan nhw fynd yn ystod eu hyfforddiant ac ennill y cymhwyster angenrheidiol. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalennau Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd.
Mae'r rhai sydd â gradd mewn diwinyddiaeth eisoes yn gallu dilyn cwrs ôl-raddedig gydag un o'n prifysgolion partner, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Celloedd Ffurfiannol
Mae pob ymgeisydd hefyd yn perthyn i gell lle byddant yn cwrdd ag eraill mewn hyfforddiant, o dan adain arweinydd profiadol, i fyfyrio ar eu ffurfiant. Dyma le pwysig i gadw pob agwedd ar hyfforddiant gyda'i gilydd, i rannu materion, sicrhau cyngor a dirnadaeth, a dysgu rhagor o sgiliau drwy wrando ar bobl eraill a'u cefnogi.

Lleoliadau

Mae pob ymgeisydd yn dod yn rhan o dîm gweinidogaethu mewn lleoliad rydyn ni’n ei drefnu a'i gefnogi. Fel arfer bydd hyn mewn eglwys neu grŵp o eglwysi. Yma mae’r ymgeiswyr yn ennill profiad ymarferol mewn gweinidogaeth ac yn cael eu cefnogi gan weinidog profiadol. Mae’r ymgeiswyr amser llawn yn gwneud lleoliad am ddau ddiwrnod bob wythnos, ac mae’r ymgeiswyr rhan-amser yn gwneud o leiaf bedair awr bob wythnos.
Oes angen i fi dalu i hyfforddi?
Nac oes. Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd yn rhoi grantiau i bobl sy'n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. O ran ymgeiswyr rhan-amser mae hyn yn £435 y flwyddyn ar hyn o bryd a darperir treuliau ar gyfer teithio. O ran ymgeiswyr amser llawn, gweler yr ateb isod.
Hoffwn hyfforddi'n amser llawn ar gyfer y Weinidogaeth ond rwy’n poeni na fyddaf yn gallu fforddio hynny.
Gweler y cwestiwn uchod. Does dim ffi, ac mae grantiau ar gael, i ymgeiswyr amser llawn, i dalu am gostau byw sylfaenol. Cyfrifir y grant hwn yn unigol gan ddibynnu ar gostau tai, incwm y cartref a chostau byw eraill. Pan fydd Athrofa Padarn Sant wedi cael ffurflen noddi'r ymgeisydd gan eu hesgobaeth, mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Adran Gyllid yr Eglwys yng Nghymru. Byddan nhw'n anfon rhagor o wybodaeth am yr hawl i gael grant a ffurflenni i'w llenwi er mwyn gwneud cais am grantiau. Gellir ddod o hyd i wybodaeth am Grantiau yma:
Os ydych yn dechrau eich hyfforddaint o 2021 ymlaen defnyddiwch y cyfrifiannell yma i gyfrif faint y gallech ei dderbyn mewn grantiau
Gan fod amgylchiadau pawb yn wahanol, cysylltwch â
Kathryn Delderfield, Cyfarwyddwr Gweithrediadau sy'n ymdrin â grantiau, ac yn hapus iawn i'ch helpu
Cwestiynau Cyffredin
Gallwch ddarllen fwy am Baratoi ar gyfer Athrofa Padarn Sant isod:


Paratoi ar gyfer Athrofa Padarn Sant


Disgwyliadau Ffurfiannol ar gyfer y Weinidogaeth Drwyddedig
