Cyrsiau Taleithiol Datblygiad i Weinidogion Gaeaf 2022/2023 i Glerigion a Darllenwyr / LLM's

Fel rhan o’r rhaglen CD taleithiol, rydym yn falch o ddweud byddwn yn cyflwyno cyfres o gyrisau dros y Gaeaf. Mae nawr y bosib i chi fwcio lle arnyn nhw. Nod y cyrsiau i gyd yw rhoi cefnogaeth a rhannu adnoddau gyda gweinidgion o draws yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’r cyrsiau i gyd ar gael I Glerigion, Darllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill (LLM’s) Mae rhai yn agored i rheiny nad ydynt yn weinidogion, megis timoedd gofal bugeiliol ac arweinyddion lleyg eraill. Lle mae hynny’n wir bydd yn cael ei nodi’n glir.
Mae’r cyrsiau yn amrywiaeth o gyrsiau hanner diwrnod a diwrnodau llawn, rhai ar-lein ac eraill mewn person, gyda chyrsiau mewn person yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr o’r Eglwys yng Nghymru, gyda chyfranogwyr yn gyfrifol am unrhyw gostau teithio. Mae’n bosib y bydd gofyn i gyfranogwyr ddod â chinio gyda hwy i rai lleoliadau. Lle fo hynny’n wir bydd wedi ei nodi’n glir ar yr e-bost yn cadarnhau eich lle.
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn dod o hyd i gwrs yr hoffech fynychu, os nad sawl un! Bydd rhifau uchafswm ac isafswm ar gyfer cyrsiau.
Sut i fwcio eich lle?
I fwcio eich lle cliciwch ar y cwrs ac i fwcio eich lle cliciiwch ar y dyddiad priodol a bydd y linc yn mynd â chi i ffurflen bwcio lle.
I lenwi'r ffurflen fwcio yn Gymraeg cliciwch i newid y iaith i Cymraeg ar frig y ffurflen ar yr ochr dde.