Cadw Pobl yn Ddiogel

Athrofa Padarn Sant sy’n darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch ledled y dalaith a hynny drwy gyfrwng ein cyrsiau 'Cadw Pobl yn Ddiogel'. Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i Swyddogion Iechyd a Diogelwch, Aelodau Cynghorau Plwyf, Wardeiniaid Eglwysi a Chlerigwyr.
Mae'r cwrs yn cael ei redeg gan Rose Burridge, Gweithiwr Proffesiynol Siartredig ym maesAnsawdd, sy'n arbenigo mewn hyfforddiant iechyd a diogelwch. Mae deunyddiau’r cwrs yn cael eu darparu gan yr Ecclesiastical Insurance Group. Cynhelir y cwrs tair awr mewn amryw o fannau ledled Cymru ond fel arfer ar fore Sadwrn rhwng 9:30am a 12:30pm. Mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniad a rhoi’r wybodaeth a ddysgwyd ar waith drwy sesiwn ymarferol i sicrhau bod yr aelodau’n teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio’u gwybodaeth newydd.
“A ninnau’n Gristnogion, mae’n hymateb ni i’r ddeddfwriaeth ar iechyd a diogelwch yn codi o ddealltwriaeth bod y person dynol cyfan wedi’i greu ar lun a delw Duw (Gen 1.26). Mae’n cydnabod ein bod wedi’n creu mewn modd “ofnadwy a rhyfeddol” (Salm 139.14) a bod hyn yn ein gosod o dan rwymedigaeth i ofalu am ein gilydd (Gal 6.2). Gofal i’r person cyfan yw hwn – materion ymarferol a chwbl (e.e. Iago 1.27). Dyna pam rydyn ni am leoli a meddwl am iechyd a diogelwch fel arfer Cristnogol o gadw pobl yn ddiogel. Fel hyn, mae trefnu’n heglwysi a’n hadeiladau eraill, y ffordd rydyn ni’n trefnu’n haddoliadau neu unrhyw fater arall yn allweddol o ran peidio ag achosi niwed i neb nac amlygu neb i risg ddiangen drwy ein hesgeulustod. Ein gobaith yw y byddwn ni, drwy fynd ati i ddeall sut mae materion iechyd a diogelwch yn cyd-fynd â’n gofal bugeiliol Cristnogol, yn gallu dangos ein cariad at bawb sy'n defnyddio’n hadeiladau.”
Ein cyrsiau nesaf
Mae cyrsiau yn cael eu trefnu ym mhob esgobaeth dewch yn ôl yn fuan i weld y wybodaeth ddiweddaraf.
Beth mae bobl wedi dweud am y cyrsiau:
Cwrs rhagorol, yn defnyddio technoleg ddigon syml i esbonio iechyd a diogelwch a’r gofynion fel maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yn amgylchedd yr eglwys.
Llawn gwybodaeth, clir a chyfeillgar. Pecyn y cwrs yn fuddiol iawn a hawdd iawn i symud drwyddo
Cwrs cyfeillgar iawn, a lwyddodd i gadw at y pwynt. Roedd Rose yn rhagorol. Rwy’n teimlo bellach fy mod i’n barod at y dasg.
Sylwch:
- Mae’r cwrs ar gael yn rhad ac am ddim
- Bydd angen ichi gyflwyno unrhyw gais am gostau teithio i’ch plwyf/ardal weinidogaethu/esgobaeth ac nid i Athrofa Padarn Sant
- Dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y mae’r cwrs ar gael ar hyn o bryd.