Parch Athro Jeremy Duff
Ychydig amdanaf i
Yn hanu o Lerpŵl, fy swydd gyntaf oedd bod yn y Fyddin. Yn dilyn hynny fe es i ymlaen i astudio Mathemateg ac yna Diwinyddoaeth yn Mhrifysgol Caergrawnt ac yna D.Phil ar y Testament Newydd yn Rhydychen. Yn y blynyddoedd yn dilyn rwyf wedi cael nifer o swyddi ‘ystafell cefn’ mewn addysg ddiwinyddol a rheolaeth megis Curad, Ficer, Staff Eglwys Gadeiriol, Caplan Ysgol, Cyfarwyddwr Dydgu Gydol Oes, Cymrawd Ymchwil, Darlithydd Uwch, Tiwtor Coleg Diwinyddol, Llywodraethwr (ysgol coleg Addysg Pellach, colegau diwinyddol Anglican ac Ecumenaidd) ac Adolygwr. Mae gennyf frwydfrydedd mawr am weinidogaeth mewn ardaloedd trefol difreintiedig, ac impact trawsnewidiol y beibl. Rwy’n byw yn Wrecsam, gyda dau o fechgyn anhygoel a gwraig ysbrydoledig. Gwersylla gwyllt a gemau cyfrifiaduron strategol sy’n fy nghadw yn gall.
Fy niddordebau ymchwil
Mae gennyf ddiddordeb eang yn y Testament Newydd, yn benodol ei allau i herio a siarad heddiw. Yn y blynyddoedd disethaf mae hyn wedi datblygu mewn i rhywafaint o ffocws ar arweinyddiaeth, ffurfiant a datblygu’r eglwys i’r genhedlaeth nesaf. Mae fy ngwaith cyhoeddedig yn cynnwys The Elements of New Testament Greek, Meeting Jesus: Human Response to a Yearning God and Peter’s Preaching: The Message of Mark’s Gospel.
Rhai o uchafbwyntiau fy ngwaith
Braint mwyaf fy ngwaith ydy cael trosolwg o waith Padarn Sant ar draws y sefydliad a gweld y pobl rhyfeddol mae Duw y neu galw, o bob math o gefndiroedd a thalentau gwahanaol, ac I’w helpu I ddatgloi potensial, gwaredu rhwystrau a chyfrannu tuag at ffurfiant a datblygiad diwinyddol a gweindogaethol. Yn ogystal mae’n bleser I weithio’n agos gyda Esgobion ac eraill ar darws yr eglwys mewn modd cadarnhaol a pherthynol. Rwy wrth fy modd ag addysgu, a’r cyfle rwy’n gael I gyfrannu’n ehangach gyda’n rhaglenni ac fel siradwr gwadd allanol yng ngwedill y Ddeyrnas Unedig. Ni allaf beidio a sôn yn gyson am dewrder, gobaith a gweddi.