Parch John-Daniel Laurence
Yn blentyn roeddwn yn mynychu eglwys Fedyddwyr annibynnol yn Lloegr, a phan es i’r Brifysgol dechreuais addoli mewn eglwys Anglicanaidd; yn ystod y blynyddoedd hyn fel myfyriwr teimlais alwad gan Dduw i weinidogaeth lawn amser o ryw fath. Fodd bynnag, ar ôl blwyddyn i ffwrdd yn gweithio i eglwys, penderfynais ddilyn gyrfa yn y byd cyllid yn y Ddinas. Ar ôl tipyn, sylweddolais fy mod angen ymateb i Dduw drwy archwilio fy ngalwad, felly yn y diwedd, er syndod i’m cydweithwyr, ymddiswyddais o’m gyrfa seciwlar a symud fy ngwraig a’m plant bach i Fryste ble hyfforddais i fod yn ficer yng Ngholeg y Drindod.
Cefais fy rhyddhau o’m hesgobaeth anfonol a pharhaodd yr antur wrth i ni symud y teulu i Gymru ac yma rydym wedi bod ers hynny. Ar ôl bod yn gurad, yna’n ficer tîm yn Aberystwyth, rwy’n parhau i weithio yn Esgobaeth Tyddewi fel Tiwtor yn Athrofa Padarn Sant. Mae fy ngwraig Kellie yn Americanes, ac mae gennym bump o blant , pob un ohonynt yn ddwyieithog i raddau gwahanol! Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth a chicio pêl gyda’r plant neu ffrindiau.
Fy niddordebau ymchwil
Mae gen i ddiddordeb mewn eglwyseg genhadol, yn enwedig wrth ystyried ffyrdd newydd o gynnal eglwys yn niwylliant heddiw, ac mewn pregethu a homileteg, diwinyddiaeth garismataidd, a’r cysylltiad rhwng gwyddoniaeth a diwinyddiaeth.