Parch Ddr Trystan Owain Hughes
Ychydig amdanaf i
Cefais fy ngeni ym Mangor a'm magu ym Mhenmaen-mawr, gan fynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar ôl cwblhau gradd mewn diwinyddiaeth a PhD ar hanes yr Eglwys yn yr ugeinfed ganrif, fe fues i’n dysgu ym Mhrifysgol Bangor cyn mynd yn bennaeth Diwinyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm hefyd yn dysgu'n rhan-amser yn y Brifysgol Agored ac yn cyflwyno papurau mewn amryw gynadleddau ym mhrifysgolion gan gynnwys Dulyn, Caeredin, Stirling, Philadelphia, Sydney, Northumbria, a Chicago.
Yn Neuadd Wycliffe yn Rhydychen y gwnes i fy hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, fe enillais MTh o Brifysgol Rhydychen. Roedd fy hyfforddiant diwinyddol hefyd yn cynnwys lleoliadau estynedig mewn canolfan allgludo i geiswyr lloches, mewn coleg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mewn Eglwys Esgobol fawr yn Washington DC. Ar ôl cyfnodau fel curad yn Llanilltud Fawr a'r Eglwys Newydd, fe es i’n gaplan cydlynu mewn tîm o gaplaniaid rhyng-ffydd ym Mhrifysgol Caerdydd a dysgu diwinyddiaeth yn rhan-amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe'm penodwyd wedyn yn gyfarwyddwr ordinandiaid yn Esgobaeth Llandaf ac offeiriad â gofal ym mhlwyf Eglwys Crist, Parc y Rhath. Pan gymerais fy swydd bresennol fel tiwtor diwinyddiaeth gymhwysol yn Athrofa Padarn Sant, fe roddes i’r gorau i fod yn DDO, ond rwy'n parhau fel ficer Eglwys Crist, Parc y Rhath.
Yn y gorffennol, fe fues i’n gwasanaethu am dros 10 mlynedd ar Gomisiwn Athrawiaeth yr Eglwys yng Nghymru ac yn cyfrannu’n rheolaidd i Pause for Thought ar BBC Radio 2 a Prayer for the Day ar BBC Radio 4, yn ogystal â rhaglenni ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Ar hyn o bryd rwy'n aelod o Bwyllgor Cronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru, wedi fy mhenodi fel clerigwr sydd wedi gweld twf sylweddol yn ei blwyf yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Yn fy amser rhydd, rwy’n gwylio ffilmiau neu bêl-droed ar y teledu, yn darllen llyfrau ffeithiol, yn gwrando ar gyfansoddwyr caneuon, neu'n crwydro cefn gwlad yn chwilio am henebion cynhanesyddol gyda’m gwraig hynod amyneddgar, Sandra, a'n tri o blant, Lukas, Lena, a Macsen.
Fy niddordebau ymchwil
Mae gen i wir awydd i wneud diwinyddiaeth yn hwylus. Hanes oedd maes fy nghyhoeddiadau academaidd cynnar, ac rwy’n dal i ymchwilio i hanes yr Eglwys yn yr ugeinfed ganrif. Er hynny, mae llawer o'm llyfrau diweddaraf i gyhoeddwyr fel SPCK a BRF yn ymdrin â diwinyddiaeth gymhwysol ac ysbrydolrwydd. Yn y rhain rwyf wedi ceisio gwneud diwinyddiaeth a chysyniadau diwinyddol yn hwylus i bawb, er mwyn eu gosod o fewn cyrraedd y rhai sydd â ffydd, y rhai sydd ar ymylon yr Eglwys, a hyd yn oed y rhai sydd heb eglwys. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd creadigrwydd ym mhob agwedd ar weinidogaeth a bywyd, ac felly mae fy llyfrau yn cydblethu gwirioneddau’r Beibl â heriau o ddiwylliant ac o'r byd creadigol, yn enwedig ffilm a cherddoriaeth. Ymhlith nifer o brosiectau sydd ar eu hanner, rwyf wrthi'n cwblhau Llyfr Garawys, sef llyfr swyddogol y BRF ar gyfer y Garawys yn 2020.
Rhai o’r uchafbwyntiau yn fy ngwaith i
2017 Living the Prayer: The Everyday Challenge of the Lord's Prayer (BRF, Abingdon)
2014 The Religious History of Wales: A survey of religious life and practice from the seventeenth century to the present day [Cyd-olygydd gyda Richard C. Allen a David Jones] (Welsh Academic Press, Caerdydd)
2013 Real God in the Real World: Advent and Christmas Readings on the Coming of Christ (BRF, Abingdon)
2013 The Compassion Quest (SPCK, Lundain)
2010 Finding Hope and Meaning in Suffering (SPCK, Lundain)
2005 ‘Pop Music and the Church’s Mission’ (Anvil: Journal for Theology and Mission, 22/1)
2005 ‘When Was Anti-Catholicism?: A Repose’ (Journal of Ecclesiastical History, 56/2)
2002 ‘An Uneasy Alliance? Welsh Nationalism and Roman Catholicism’ (North American Journal of Welsh Studies, 2/2)
2001 ‘Anti-Catholicism in Twentieth-Century Wales’ (Journal of Ecclesiastical History, 53/2)