Parch Chris Burr
Ychydig amdana i
Cefais fy ngeni yn Nhredegar ac rwyf wedi treulio fy mywyd cyfan yn y De. Nid oes gennyf gefndir crefyddol ond fe ddes i’n Gristion yn fy arddegau cynnar gan deimlo galwad i’r weinidogaeth yn fuan wedyn.
Ar y cychwyn roeddwn i’n mynychu Eglwys Fedyddwyr fach, ro’n i’n pregethu ar y gylchdaith leol pan ro’n i’n 16 oed a chefais fy nerbyn i’r Eglwys Anglicanaidd yn fy ugeiniau cynnar. Erbyn hynny, roeddwn i wedi cwrdd a’m gwraig Helen, ac mae genym bedwar o blant hyfryd, sef Daniel, James, Jessica a Thomas.
Ar ôl gweithio yn y gwasanaeth sifil am bron i ddeng mlynedd, yn bennaf fel Arolygydd Yswiriant Gwladol ac yna fel Rheolwr Hyfforddiant ac Addysg, erbyn diwedd fy ugeiniau ro’n i’n teimlo galwad Duw yn gryfach nag erioed a gadewais fy swydd i ddechrau hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf.
Graddiais gyda gradd BTh yn 2001, a gwasanaethu fel curad yn Llantrisant cyn dod yn Offeiriad mewn Gofal plwyf ym Mhontypridd yn 2004. Yn 2010 cefais fy mhenodi’n Ficer Llys-faen yng ngogledd Caerdydd, cyn gadael gweinidogaeth plwyfi i ymgymryd â’m swydd bresennol yn Athrofa Padarn Sant yn 2019.
Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn meteoroleg ac rwyf wrth fy modd yn teithio. Rwyf wedi datblygu cysylltiadau cryf iawn gyda chymuned ym Mbale, dwyrain Uganda, ac yn trefnu ac arwain pererindodau rheolaidd i’r Wlad Sanctaidd. Rwy’n mwynhau darllen nofelau trosedd da (fydd na neb cystal â PD James!) a mynd am dro gyda’n ci Labrador, Honey (er mae hi sy’n mynd â fi am dro fel arfer!).
Fy niddordebau gweinidogaethol
Drwy gydol fy ngweinidogaeth mewn plwyfi rwyf wedi rhoi cryn bwyslais ar ofal bugeiliol, yn enwedig bod yn gysur i deuluoedd ar adegau o ofid mawr a galar. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y rôl eglwysigol ac ymgysylltiad yr eglwys yn y gymdeithas ehangach, a dyna un o’r prif resymau pam wnes i dderbyn y swydd hon yn Athrofa Padarn Sant. Mae fy nyletswyddau’n cynnwys cefnogi a pharatoi gweinidogion, gweithwyr clerigol a lleyg, wrth iddynt geisio rhoi Cenhadaeth Duw ar waith yn eu cyd-destunau penodol.