Parch Ddr Manon Ceridwen James
Ychydig amdana i
Cefais fy magu yn Nefyn (Pen Llŷn) er i mi gael fy ngeni yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Astudiais y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd ac ystyried galwedigaeth i’r weinidogaeth ordeiniedig pan oeddwn yno ac yn gweithio yng Ngholeg Trefeca, canolfan gynadledda i’r Presbyteriaid. Yn ystod yr amser hwnnw cefais fy nerbyn ar gyfer hyfforddiant yn Ridley Hall, Caergrawnt lle astudiais ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn. Cefais fy ordeinio’n ddiacon ym 1994 yn Eglwys Gadeiriol Bangor (offeiriaid ym 1997), bûm yn guradur yn Llandudno, ac yno ganwyd fy merch gyntaf. Yn ystod fy mherigloriaeth gyntaf cefais fy ail ferch ac roeddwn yn cyfuno gweinidogaethu mewn pedair cymuned yng nghyffiniau Dyffryn Ogwen â bod yn Gyfarwyddwr Ymgeiswyr I’r Weinidogaeth yn yr Esgobaeth. Yn 2005 symudais i esgobaeth Llanelwy i swydd hyfforddi lawn amser, o fewn hyfforddiant gweinidogaethol a bod yn ddisgybl yn ogystal â bod yn gyfrifol am ysgolion eglwys. Yn 2008, cyfunais y gwaith o fod yn diwtor ar gyfer hyfforddiant i’r weinidogaeth yn yr esgobaeth gyda gweinidogaeth plwyf eto, fel Rheithor Llanddulas a Llysfaen gan ysgwyddo cyfrifoldebau esgobaethol eraill fel swyddog Addysg Weinidogaethol Gychwynnol a Chyfarwyddwr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth ar hyd y ffordd, nes i mi ddod yn Gyfarwyddwr Gweinidogaeth llawn amser yn 2015. Felly, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru ers 2005, ac wedi addysgu diwinyddiaeth ymarferol, arwain addoliad, pregethu ac addysg oedolion yn ystod y cyfnod hwnnw.
Astudiais am dystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg Oedolion a Myfyrio Diwinyddol ym Mhrifysgol Caer (yn 2008) a mwynhau cymaint nes penderfynu gwneud PhD, y gwnes ei gwblhau yn 2015, mewn diwinyddiaeth ymarferol o dan gyfarwyddyd yr Athro Stephen Pattison. Defnyddiais gyfuniad o gyfweliadau straeon bywyd go iawn a myfyrdod diwinyddol ar farddoniaeth a chofiannau i astudio sut mae menywod Cymru’n defnyddio crefydd i greu eu hunaniaeth. Cyhoeddais lyfr a oedd yn deillio o’r gwaith ymchwil hwn yn 2018.
Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau mynd i gemau pêl-droed a digwyddiadau comedi gyda’m gŵr Dylan, sy’n bennaeth cyfrifyddu ariannol ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn mwynhau cyngherddau cerddorol, gwyliau a charafanio hefyd. Rwy’n darllen ac ysgrifennu barddoniaeth ac wedi cyhoeddi nifer o gerddi mewn cylchgronau llenyddol.
Fy niddordebau ymchwil
Drwy gydol fy ngweinidogaeth mewn plwyfi rwyf wedi rhoi cryn bwyslais ar ofal bugeiliol, yn enwedig bod yn gysur i deuluoedd ar adegau o ofid mawr a galar. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y rôl eglwysigol ac ymgysylltiad yr eglwys yn y gymdeithas ehangach, a dyna un o’r prif resymau pam wnes i dderbyn y swydd hon yn Athrofa Padarn Sant.
Mae fy nyletswyddau’n cynnwys cefnogi a pharatoi gweinidogion, gweithwyr clerigol a lleyg, wrth iddynt geisio rhoi Cenhadaeth Duw ar waith yn eu cyd-destunau penodol.
Rhai uchafbwyntiau o’m gwaith
2018 Women, Identity and Religion in Wales: theology, poetry, story Gwas Prifysgol Cymru.
Penodau
‘Fat Chicks, Blue Books and Green Valleys, Women, Religion and Identity in Wales’, yn Slee, N., Porter, F. and Phillips, A. (gol) (2013) The Faith Lives of Women and Girls: Qualitative Research Perspectives. Farnham: Ashgate.
‘Song of a Voiceless Person: Using the Poetry of Menna Elfyn in a Study of Welsh Women's Identity and Religion’ (2018) yn Slee, N., Porter, F. and Phillips, A. (gol) Researching Female Faith: Qualitative Research Methods (Explorations in Practical, Pastoral and Empirical Theology). Abingdon. Routledge.
Erthygl
Y Ferch Gref: Merched, Crefydd a Hunaniaeth yng Nghymru yn Y Traethodydd Ebrill 2017 Caernarfon. Gwasg Pantycelyn.
I ddod
Golygydd, gydag Wayne Morris a Stephen Adams, Welsh Theology: Historical, Contextual and Practical Perspectives, Gwasg Prifysgol Cymru, 2019.
‘People who go to Eisteddfodau all grand and thinking they are someone’: the role of religion in creating the Welsh middle class’ hefyd yn Welsh Theology: Historical, Contextual and Practical perspectives Gwasg Prifysgol Cymru 2019
‘Body Remember’: reflecting theologically on the experience of domestic violence through the poetry of Kim Moore’ yn Feminism and Trauma Theologies golygwyd gan Katie Cross a Karen O’Donnell. Bloomsbury Press
Barddoniaeth
Rwyf wedi cyhoeddi cerddi yn Poetry Wales, Envoi, Obsessed with Pipework ac Under the Radar.