Dr Charlie Shepherd
Ychydig amdanf i:
Rwy'n darllen ac yn ysgrifennu yn benodol ym meysydd y shifftiau athronyddol rhwng Moderniaeth ac Ôl-foderniaeth, a'r (cam)argraffiadau o'r hyn y mae'r shifftiau hyn yn ei awgrymu ac yn ei olygu o ran darllen y Beibl fel Ysgrythur Gristnogol. Ar ôl peth amser yn darlithio yn Durham, deuthum i Gymru.
Rwy'n dal i ennyn diddordeb myfyrwyr ym maes Hermeniwteg, yn ogystal â datblygu a gweithredu’n Strategaeth Ddysgu yn yr Athrofa. Rhan o'r maes hwn yw datblygiad strategol yr hyn rydym yn ei gynnig o ran adnoddau – yn bennaf yn nhermau digideiddio cynyddol ym maes eang y dyniaethau.
A minnau wedi fy magu yn Seattle, mae gen i gariad parhaol at y mynyddoedd, dringo, a’r Seattle Seahawks. Cewch atebion gen i i’ch cwestiynau ar unrhyw un o’r rhain, yn faith ac yn fanwl – byddwch yn barod!